Wrecsam Mynwentydd ac Amlosgfa / Wrexham Cemeteries and Crematorium

Wrecsam Mynwentydd ac Amlosgfa / Wrexham Cemeteries and Crematorium This is the official Wexham Cemeteries and Crematorium page, managed by Wrexham County Borough Council

Dyma dudalen Facebook swyddogol ar gyfer Gwasanaethau Mynwentydd ac Amlosgfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Mynwent Wrecsam yn Ffordd Rhiwabon, Wrecsam LL13 7RE. Agorodd Mynwent Wrecsam ym 1876 ar lain a elwid unwaith yn Cae’r Cleifion, ac mae les 1840 oddi wrth Esgob Llanelwy yn cyfeirio ati fel Tera Lepresorum, ‘Tir y Gwahanglwyfus’. Dyluniwyd y Fynwent mewn arddull gardenesque fel lle

gallai pobl yr Oes Fictoraidd fynd am dro a chael awyr iach. Ers hynny mae oddeutu 37,000 o gladdedigaethau wedi eu cynnal. Dioddefodd ffabrig y Fynwent draul dros y blynyddoedd ac yn ddiweddar mae wedi elwa o raglen adfer trwy Raglen Parciau i Bobl Cronfa Treftadaeth y Loteri . Mae Mynwent Wrecsam yn llawn a dim ond claddu mewn beddi presennol a ganiateir. Lleolir mynwent bresennol Wrecsam ar Ffordd Plas Acton, Wrecsam, LL112UB. Agorwyd y fynwent newydd hon ar dir amaethyddol yn 2009. Mae'r fynwent mewn arddull lawnt, sy'n golygu bod cerrig beddau'n cael eu gosod ar slab concrit wedi'i osod ymlaen llaw ar ben y bedd, gyda'r llain gladdu ei hun yn bodoli'n gyffredinol fel parcdir glaswelltog wedi’i iddo adfer ar ôl claddedigaeth. Mae gan y safle’n un agored ac fe'i adeiladwyd mewn lleoliad tawel, lled-wledig sydd â chysylltiadau trafnidiaeth hawdd. Agorodd amlosgfa Pentrebychan ym 1966, ar safle Plas Pentrebychan gynt. Mae’n gyfleuster pwrpasol sy’n cynnal tua 1700 o Amlosgiadau’n flynyddol, ac mae wedi’i leoli mewn Parcdir helaeth lle mae pedair gardd goffa wedi’u creu, lle gall teuluoedd drefnu i weddillion gael eu gwasgaru. Lleolir yr amlosgfa ym Mhentrebychan, ar gyrion Wrecsam, LL14 4EP. Credir i'r plas cyntaf ym Mhentrebychan gael ei adeiladu ar ddechrau'r 17eg ganrif gan Hugh Meredith o Wrecsam. Mae’r teulu wedi olrhain eu tras at Bleddyn ap Cynfyn, Tywysog Powys. Disgrifiwyd y plas a'r ystâd fel un o'r rhai helaethaf yn yr ardal. Aeth y Plas yn adfail a chafodd ei ddymchwel yng nghanol yr 20fed Ganrif, ond erys yr ardd ffurfiol a'r parcdir. Mae holl diroedd ein mynwent ac amlosgfa ar agor bob dydd i'r cyhoedd tra mae’n olau dydd. I gael rhagor o fanylion ynghylch pryd mae’r tiroedd a’r swyddfeydd yn agor, ewch i’n gwefan. This is the official facebook site for Wrexham County Borough Council’s Cemeteries and Crematorium Services. Wrexham Cemetery is in Ruabon Road, Wrexham LL13 7RE. Wrexham Cemetery opened in 1876 on a plot once known as Cae’r Cleifion or The Field of the Sick, and an 1840 lease from the Bishop of St Asaph refers to it as Tera Lepresorum, ‘The Lepers’ Land’. The Cemetery was designed in the “Gardenesque” style as a place where Victorians could go for a stroll and refresh themselves in the open air. Around 37,000 burials have taken place since then. The Cemetery fabric suffered wear and tear over the years and has recently benefitted from a program of restoration through the Heritage Lottery Parks for People Programme . Wrexham Cemetery is full and only internments into existing grave plots are permitted. Wrexham's current cemetery is located on Plas Acton Road, Wrexham, LL112UB. This newer Cemetery was opened on agricultural land in 2009. The cemetery is a lawned style, which means that headstones are placed onto a preinstalled concrete slab at the head of the grave, with the burial plot itself generally existing as grassed parkland once restored after burial. The site has an open aspect and was built in a quiet, semi-rural location that has easy transport links. Pentrebychan crematorium opened in 1966, on the site where Pentrebychan Hall was previously located. It is purpose built facility that manages around 1700 Cremations annually, and is set in extensive Parkland in which four gardens of remembrance have been created, where families can arrange for remains to be scattered. The crematorium is located in Pentrebychan, on the outskirts of Wrexham, LL14 4EP. The first hall at Pentrebychan is believed to have been built at the beginning of the 17th century by Hugh Meredith of Wrexham. The family traced their ancestry to Bleddyn ap Cynfyn, Prince of Powys. The hall and estate were described as being among the most extensive in the area. The Hall fell in disrepair and was demolished in the mid 20th Centaury, but the formal garden and parkland remain. All of our cemetery and crematorium grounds are open daily to the public during daylight hours. For more details of when the grounds and offices open please see our website.

Mae’r Ddôl Cennin Pedr yn Amlosgfa Pentrebychan ar ei gorau, gyda miloedd o flodau cenedlaethol Cymru yn eu blodau. Mewn...
12/03/2026

Mae’r Ddôl Cennin Pedr yn Amlosgfa Pentrebychan ar ei gorau, gyda miloedd o flodau cenedlaethol Cymru yn eu blodau. Mewn gwirionedd, mae'r planhigion ym mhob un o'n gerddi coffa a'n mynwentydd yn dod yn fyw, mae adar yn nythu yn y coetir ac mae ein gwiwerod lleol wedi dod i'r amlwg o'u gaeafgwsg i fwynhau'r heulwen.
Mae ein timau'n gweithio'n galed i sicrhau bod ein holl diroedd yn edrych ar eu gorau, gyda thasgau ar y gweill sy'n cynnwys tocio gwrychoedd, plannu mewn gwelyau blodau a thorri ein lawntiau am y tro cyntaf eleni. Ond ni allwn fod ym mhobman ar unwaith, felly byddwch yn amyneddgar os nad yw ardal rydych chi'n ei charu wedi cael gofal a sylw cynnar y gwanwyn eto, byddwn yn mynd ati cyn gynted ag y gallwn.
Rydym wrth ein bodd yn gweld ymwelwyr, ac o 1 Ebrill, mae Tir yr Amlosgfa a Mynwent Wrecsam ar agor tan 6pm bob dydd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am oriau ymweld ar ei gwefannau.

llun © Pippa Stella

The Daffodil Meadow at Pentrebychan Crematorium is at its best, with thousands of Wales national flowers in bloom. In fact the plants in all of our memorial gardens and cemeteries are bursting into life, birds are nesting in the woodland and our local squirrels have emerged from their winter hibernation to enjoy the sunshine.
Our teams are working hard to ensure that all of our grounds are looking at their best, with tasks in progress that include hedge trimming, planting out bedding and the first cut of our lawns. But we can’t be everywhere at once, so please bear with us if an area you love hasn’t had its early spring care and attention yet, and we’ll get to it as soon as we can.
We love to see visitors, and from 1st April our Crematorium Grounds and Wrexham Cemetery are open until 6 p.m. every day. You can find out more about visiting hours on our websites.

Photo © Pippa Stella

18/11/2025
https://newyddion.wrecsam.gov.uk/baneri-gwyrdd-yn-chwifio-unwaith-eto-ym-mharciau-wrecsam/https://news.wrexham.gov.uk/gr...
23/07/2025

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/baneri-gwyrdd-yn-chwifio-unwaith-eto-ym-mharciau-wrecsam/

https://news.wrexham.gov.uk/green-flags-flying-once-again-at-wrexham-parks/

Heddiw, datgelodd yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus y 315 o safleoedd sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a’r Wobr Baner Werdd Cymunedol sydd o fri rhyngwladol.
Bydd y faner yn chwifio ym Mynwent Wrecsam i gydnabod ein hymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, a chyfranogiad cymunedol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch iawn bod y fynwent wedi derbyn Baner Werdd. Mae hyn yn adlewyrchiad o waith caled ac ymroddiad staff Cyngor Wrecsam, gyda chefnogaeth Cyfeillion Mynwent Wrecsam, a hefyd i'r nifer o ymwelwyr a pherchnogion beddau sy'n gweithio'n ddiflino ar feddau eu teuluoedd.

Environmental charity Keep Wales Tidy today revealed the 315 sites that have received the internationally renowned Green Flag Award and Green Flag Community Award.

The flag will be flying at Wrexham Cemetery in recognition of our environmental efforts, excellent visitor facilities, and community involvement.

Wrexham County Borough Council are delighted that the cemetery has been awarded a Green Flag. This is a reflection of the hard work and dedication of Wrexham Council staff, with the support of the Friends of Wrexham Cemetery, and also to the many visitors and grave owners who work tirelessly at their own family graves.

Yr Ardd Furiog – gardd ffurfiol o fewn waliau’r neuadd o’r 17eg ganrifWalled Garden – a formal garden within the walls o...
21/07/2025

Yr Ardd Furiog – gardd ffurfiol o fewn waliau’r neuadd o’r 17eg ganrif

Walled Garden – a formal garden within the walls of the 17th century hall

21/07/2025
Amosglfa Pentrebychan Crematorium
23/05/2025

Amosglfa Pentrebychan Crematorium

Address

Amlosgfa Pentrebychan Crematorium
Wrexham
LL144EP

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Wrecsam Mynwentydd ac Amlosgfa / Wrexham Cemeteries and Crematorium posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Wrecsam Mynwentydd ac Amlosgfa / Wrexham Cemeteries and Crematorium:

Share