30/09/2025
Y dyfodol.. Roedd yn hudolus. Bydd gennym atgofion melys iawn o gyffro’r plant ddydd Gwener diwethaf. Ar y 26ain o Fedi, cymerodd ysgolion lleol ran mewn gorymdaith ym Masn Trefor a ddyluniwyd gan Cathy Wade. Nododd yr orymdaith hon agoriad yr ŵyl Fforio Trwy Amser, sef gŵyl dreftadaeth a arweiniwyd gan y gymuned yn y Waun, Cefn, Froncysyllte a Basn Trefor ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul. Diolch i’n Grŵp Cynghori Cymunedol a phob un â roddodd eu hamser yn hael i’n cefnogi yn ystod y cyfnod cyn yr ŵyl er mwyn ei gwneud yn bosibl. Diolch hefyd i bawb a ddaeth i gymryd rhan yn y digwyddiadau. Diolch i bob ysgol am gymryd rhan, i’r tîm cydlynu, yr arbenigwyr treftadaeth, iechyd, iaith, daeareg a’r economi (Phil Vaughan, Sara Wheeler, Emma Presern a Charles Roach) a Sue Griffiths am wneud hyn oll yn bosibl. I’r myfyrwyr celf gwych o Wrecsam a Birmingham am gydweithio ar hyn - pleser pur oedd gweithio gyda chi. I’r Tîm Fforwyr ac Eric, gwirfoddolwr yng Nghanolfan Ymwelwyr Basn Trefor Glandŵr Cymru - rydych chi’n sêr.
Diolch i Eastmans am roi caniatâd i ddefnyddio’r cae ac i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am ein galluogi i wireddu’r digwyddiad arbennig hwn.
Mwy o luniau i ddilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
CCanal & River TrustWWrexham County Borough CouncilYYsgol Y Garth@ysgolminyddol YYsgol Acrefair ysgolmaesyllan Photography