Dechrau'n Deg Wrecsam

Dechrau'n Deg Wrecsam Mae Dechrau’n De yn rhaglen Llywodraeth Cymru i gynorthwyo rhieni a gofalwyr i helpu i'w plant ffynnu a chael y dechrau gorau bosib mewn bywyd.

Mae’r rhaglen wedi ei anelu at gael effaith cadarnhaol ar blant a rhieni / gofalwyr, gwneud gwelliannau mawr i’w iechyd a’u lles a chyfle mewn bywyd. Mae gan y rhaglen 4 prif elfen;
• Gwasanaeth dwys ymwelwyr iechyd
• Mynediad at gymorth rhianta
• Gofal plant rhan-amser o safon am ddim i blant 2-3 oed
• Cymorth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Llawer o hwyl heddiw yng ngrŵp Chatterbox Queensway House! 📍Queensway House: Dydd Llun, 13:00 - 14:00
14/09/2026

Llawer o hwyl heddiw yng ngrŵp Chatterbox Queensway House!

📍Queensway House: Dydd Llun, 13:00 - 14:00

Yn dechrau wythnos hon / Gweithdy Genedigaeth📍Tŷ Pawb, LL13 8BB: Dydd Iau 17 Medi - 15 Hydref, 13:00 - 15:00Bydd y 5 gwe...
14/09/2026

Yn dechrau wythnos hon / Gweithdy Genedigaeth

📍Tŷ Pawb, LL13 8BB: Dydd Iau 17 Medi - 15 Hydref, 13:00 - 15:00

Bydd y 5 gweithdy’n mynd â chi ar siwrnai geni. Mae’r grŵp yn helpu i egluro’r sut a’r beth o enedigaeth.

Fe fydd y sesiynau yn cynnwys:
» Camau esgor
» Agweddau cadarnhaol beichiogrwydd
» Sut i fod yn bartner ac eiriolydd genedigaeth
» Hormonau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth
» Safle ar gyfer rhoi genedigaeth
» Deall eich pelfis
» Cyswllt croen gyda’ch babi
» Lleihau straen wrth roi genedigaeth
» Addasiadau babi yn eu byd newydd

Cysylltwch â ni i gadw lle

Mae’r grwpiau Aros a Chwarae yn dychwelyd yr wythnos hon!Dewch i ymuno â thîm Dechrau’n Deg ar gyfer bore o weithgaredda...
14/09/2026

Mae’r grwpiau Aros a Chwarae yn dychwelyd yr wythnos hon!

Dewch i ymuno â thîm Dechrau’n Deg ar gyfer bore o weithgareddau llawn hwyl i chi a’ch plentyn.

Nod y sesiynau yw:
» Cael hwyl gyda’ch plentyn trwy chwarae
» Astudio iaith trwy ganeuon, hwiangerddi a storïau
» Cefnogi datblygiad cymdeithasol eich plentyn

📍Canolfan Hamdden Plas Madoc, LL14 3HL: Dydd Mercher, 13:00 - 14:15
📍Dechrau'n Deg Neuadd Hafod Y Wern, LL13 9HD: Dydd Iau, 13:30 - 14:15
📍Neuadd Goffa Brynteg, LL11 6AB: Dydd Gwener, 09:30 - 11:00

Edrychwn ymlaen at weld pob un ohonoch!

Galwch heibio, nid oes angen cadw lle. Cynhelir y sesiynau yn ystod y tymor.

(Mae’r grwp yma ar gyfer Teuluoedd Dechrau'n Deg yn unig.)

11/09/2026
Mae grŵp Little Dippers Dechrau’n Deg yn DYCHWELYD i deuluoedd Dechrau'n Deg!Bydd y grŵp nesaf yn dechrau ddydd Llun 19e...
11/09/2026

Mae grŵp Little Dippers Dechrau’n Deg yn DYCHWELYD i deuluoedd Dechrau'n Deg!

Bydd y grŵp nesaf yn dechrau ddydd Llun 19eg Hydref (Sesiwn Sefydlu), ac yna bydd 6 sesiwn wythnosol yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc yn dechrau ar ddydd Llun 2il Tachwedd.

Bydd angen i rieni Dechrau'n Deg wneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein a fydd yn cael ei phostio ar ein tudalen Facebook ddydd Llun 21ain Medi am 9:30yb. Dydyn ni ddim yn gallu derbyn unrhyw archebion cyn y dyddiad hwn, a rhaid gwneud pob cais drwy'r ddolen. Bydd archebion yn cael eu derbyn ar sail y cyntaf i’r felin.

Hoffen ni ddiolch yn fawr iawn i Tesco, a'u Hyrwyddwr Cymunedol gwych David a'i gydweithiwr Nicole, am eu rhodd hael o b...
10/09/2026

Hoffen ni ddiolch yn fawr iawn i Tesco, a'u Hyrwyddwr Cymunedol gwych David a'i gydweithiwr Nicole, am eu rhodd hael o bympiau’r fron i'n tîm ymwelwyr iechyd ym Mhlas Madoc. Bydd y rhain yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi yn ein cymuned leol, gan ein helpu i ddarparu cymorth ymarferol i deuluoedd pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf. Mae'n hyfryd gweld busnesau lleol yn cefnogi eu cymunedau ac yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich caredigrwydd a'ch haelioni.

Diolch i Tesco Cefn Mawr!

Yn Dechrau Wythnos Nesaf / Rhaglen FaethuMae plant yn rhoi cymaint o foddhad ac yn llawn hwyl, ond gall y gwaith o edryc...
10/09/2026

Yn Dechrau Wythnos Nesaf / Rhaglen Faethu

Mae plant yn rhoi cymaint o foddhad ac yn llawn hwyl, ond gall y gwaith o edrych ar eu holau fod yn straen ac yn heriol.

Mae’r Rhaglen Faethu’n helpu i ddelio â’r heriau hynny i gael bywyd teuluol sy’n hapusach ac yn ddigynnwrf.

Rhaglen sydd wedi’i phrofi sy’n ein helpu i feddwl am yr hyn a wnawn, pam yr ydym yn gwneud hynny a sut deimlad a gawn o wneud.

Dros y Rhaglen 10 wythnos, byddwch yn edrych ar lawer o wahanol bynciau, gan gynnwys:
- Deall pam fod plant yn ymddwyn fel ag y maent
- Gwybod pa deimladau sydd y tu ôl i ymddygiad (ni a nhw)
- Archwilio gwahanol ddulliau o ddisgyblu
- Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth mewn plant
- Dysgu pa mor bwysig yw gofalu amdanom ni’n hunain

📍Neuadd Goffa Wrecsam, LL12 7AG: Dydd Mercher 16 Medi - 25 Tachwedd, 09:30 - 11:30

Cysylltwch â ni i gadw lle

(Mae’r grwp yma ar gyfer Teuluoedd Dechrau'n Deg yn unig)

Yn Dechrau’n Fuan / Bwyta’n Dda a Cyflwyno Bwydydd Solet i’ch Babi.Hoffech chi fynychu sesiwn i ddysgu am gyflwyno bwydy...
09/09/2026

Yn Dechrau’n Fuan / Bwyta’n Dda a Cyflwyno Bwydydd Solet i’ch Babi.

Hoffech chi fynychu sesiwn i ddysgu am gyflwyno bwydydd solet i'ch babi, pryd i ddechrau a pha fath o fwyd sy'n dda i'w gyflwyno?

📍Tŷ Pawb, LL13 8BB: Dydd Llun 28 Medi, 13:00 - 14:30

Cysylltwch â ni i gadw lle.

(Mae’r grwp yma ar gyfer Teuluoedd Dechrau'n Deg yn unig)

Yn Dechrau’n Fuan / Gweithdy Genedigaeth📍Tŷ Pawb, LL13 8BB: Dydd Iau 17 Medi - 15 Hydref, 13:00 - 15:00Bydd y 5 gweithdy...
09/09/2026

Yn Dechrau’n Fuan / Gweithdy Genedigaeth

📍Tŷ Pawb, LL13 8BB: Dydd Iau 17 Medi - 15 Hydref, 13:00 - 15:00

Bydd y 5 gweithdy’n mynd â chi ar siwrnai geni. Mae’r grŵp yn helpu i egluro’r sut a’r beth o enedigaeth.

Fe fydd y sesiynau yn cynnwys:
» Camau esgor
» Agweddau cadarnhaol beichiogrwydd
» Sut i fod yn bartner ac eiriolydd genedigaeth
» Hormonau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth
» Safle ar gyfer rhoi genedigaeth
» Deall eich pelfis
» Cyswllt croen gyda’ch babi
» Lleihau straen wrth roi genedigaeth
» Addasiadau babi yn eu byd newydd

Cysylltwch â ni i gadw lle

Yn dechrau wythnos hon / Gad i ni Siarad â’ch Plentyn.Grŵp chwe wythnos i rieni/gofalwyr a phlant rhwng 1 a 4 oed.Dewch ...
08/09/2026

Yn dechrau wythnos hon / Gad i ni Siarad â’ch Plentyn.

Grŵp chwe wythnos i rieni/gofalwyr a phlant rhwng 1 a 4 oed.
Dewch i gael awgrymiadau defnyddiol ar sut i gynorthwyo'ch plentyn i siarad, yna cewch eu hymarfer nhw gyda'ch gilydd drwy weithgareddau chwarae hwyliog!

📍Neuadd Goffa Wrecsam, LL12 7AG: Dydd Mercher 9 Medi - 7 Hydref, 13:00 - 14:00
📍Neuadd George Edwards, LL14 3AE, Dydd Iau 10 Medi - 8 Hydref, 10:00 - 11:00

Cysylltwch â ni i gadw lle.

(Mae’r grwp yma ar gyfer Teuluoedd Dechrau'n Deg yn unig)

Address

Ysgol Hafod Y Wern
Wrexham
LL139HD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Dechrau'n Deg Wrecsam posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share