Powis Castle and Garden NT/YG Castell a Gardd Powis

Powis Castle and Garden NT/YG Castell a Gardd Powis Gardd fyd-enwog, castell o'r 13eg ganrif a chasgliad hanesyddol. Cared for by the National Trust.

Dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol | World-famous garden, 13th century castle and historic collection.

A***n Ymysg Lliwiau’r Hydref | Silver Among the Autumn Shades****Rydym yn mwynhau’r adeg honno pan mae diwedd yr haf yn ...
13/09/2026

A***n Ymysg Lliwiau’r Hydref | Silver Among the Autumn Shades

****

Rydym yn mwynhau’r adeg honno pan mae diwedd yr haf yn llifo i ddechrau’r hydref. Mae’r coed masarn a’r gwinwydd yn dechrau troi’n goch a marŵn, tra bod rhosod melyn, pinc a choch yn dal i flodeuo a ffiwsias bywiog yn dod â thonnau o liw.

Ond yng nghanol yr holl liwiau cyfoethog hynny, efallai na fyddech yn disgwyl canfod a***n.

Mae’r Artemisia ‘Castell Powis’, sy’n swatio’n union o dan yr un y mae wedi’i enwi ar ei ôl ar y Teras Uchaf, yn dod â chyferbyniad trawiadol gyda’i ddeiliach ysgafn, a***n o dan y tocwaith ywen wedi’u siapio.

Os yw wedi dal eich llygad yn ystod ymweliad, cewch fynd â darn bach o gastell Powis gartref gyda chi. Mae’r planhigion sy’n tyfu yma yn yr ardd ar gael yn y siop ar hyn o bryd, yn barod i ddod ag ychydig o’r terasau i’ch gardd chi.

****

We're enjoying that wonderful moment when late summer blends into early autumn. Acers and grapevines are beginning to turn shades of red and maroon, while yellow, pink and red roses continue to bloom and vibrant fuchsias bring pops of colour.

But among all those rich tones, you might not expect to find silver.

Artemisia 'Powis Castle', nestled directly below its namesake on the Top Terrace, brings a striking contrast with its soft, silvery foliage beneath the shaped yew topiary.

If it's caught your eye during a visit, you can take a little Powis Castle home with you. Plants grown here in the garden are currently available in the shop, ready to bring a touch of the terraces to your own garden.

Drysau Agored y Trallwng | Welshpool Open Doors ****Cewch fwynhau mynediad am ddim i’r Ardd ac i Amgueddfa Clive ar 12 a...
09/09/2026

Drysau Agored y Trallwng | Welshpool Open Doors

****

Cewch fwynhau mynediad am ddim i’r Ardd ac i Amgueddfa Clive ar 12 a 13 Medi fel rhan o Ddrysau Agored 2026.

Dathliad o dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru yw Drysau Agored, sy’n rhoi cyfle i bawb ganfod rhai o leoedd mwyaf arbennig y genedl, wedi ei drefnu a’i a***nnu gan Cadw.

Rydym hefyd yn ymuno ag Visit Welshpool ac atyniadau partneriaid ledled y dref am benwythnos o ddigwyddiadau’n dathlu straeon, hanes a threftadaeth sy’n gwneud ein hardal leol yn unigryw.

Noder y bydd Ystafelloedd y Castell ar gau tra cynhelir gwaith cadwraeth a chynnal a chadw hanfodol. Nid oes angen archebu i ymweld â’r Ardd neu Amgueddfa Clive.

Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd ledled y Trallwng, gan gynnwys amseroedd agor atyniadau partneriaid ac unrhyw ofynion archebu: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/powis-castle-and-garden/events/a409a032-91ac-44ba-8377-07ee2c4bd436

****

Enjoy free entry to the Garden and Clive Museum on 12 & 13 September as part of Open Doors 2026.

Open Doors is a celebration of Wales's rich heritage and culture, giving everyone the chance to discover some of the nation's most special places, organised and funded by Cadw.

We're also joining Visit Welshpool and partner attractions across the town for a weekend of events celebrating the stories, history and heritage that make our local area unique.

Please note the Castle Rooms remain closed while essential conservation and maintenance work takes place. No booking required to visit the Garden or Clive Museum.

Find out more about what's happening across Welshpool, including partner attractions' opening times and any booking requirements: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/powis-castle-and-garden/events/a409a032-91ac-44ba-8377-07ee2c4bd436

Blas o ddiwedd yr haf | A taste of late summer 🍎****Os ydych yn ymweld â’r ardd dros yr wythnosau nesaf, ewch am dro law...
06/09/2026

Blas o ddiwedd yr haf | A taste of late summer 🍎

****

Os ydych yn ymweld â’r ardd dros yr wythnosau nesaf, ewch am dro lawr i’r Ardd Ffurfiol Edwardaidd, lle mae’r coed afalau’n drwm gyda ffrwythau gwyrdd a choch llachar, ac arogl afalau melys yn llenwi’r aer.

Nid yw’r ardal hon wastad wedi edrych fel hyn. Unwaith roedd yn Ardd Gegin brysur, ond cafodd ei thrawsnewid yn 1912 gan Violet, Iarlles Powis, yn lle addurnol tawel a fwynheir heddiw. Mae’r rhodfa hon sy’n llawn afalau yn cynnig cipolwg ar yr hanes hwnnw, gyda’r coed yn dal i ffynnu yma dros ganrif yn ddiweddarach.

Dilynwch y rhodfa, arhoswch dan y brigau a mwynhau’r newid ysgafn rhwng tymhorau. Gyda haul diwedd yr haf ac arwyddion cyntaf yr hydref yn dechrau ymddangos, mae’n amser bendigedig i bwyllo ac ymgolli ym mhrydferthwch yr ardd.

****

If you're visiting the garden over the next few weeks, wander down to the Edwardian Formal Garden, where apple trees are heavy with bright red and green fruit, and a sweet apple scent lingers in the air.

This area hasn't always looked the way it does today. Once a busy Kitchen Garden, it was transformed in 1912 by Violet, Countess of Powis, into the peaceful ornamental space enjoyed today. This apple-lined avenue offers a glimpse into that history, with the trees still thriving here more than a century later.

Follow the avenue, pause beneath the branches and enjoy the gentle shift between seasons. With late summer sunshine and the first touches of autumn beginning to appear, it's a lovely time to slow down and soak up the beauty of the garden.

Dewch i weld diweddglo mawreddog yr haf | See summer's grand finale****Mae diwedd yr haf yn rhoi sioe yn yr Ardd.Mae’r f...
04/09/2026

Dewch i weld diweddglo mawreddog yr haf | See summer's grand finale

****

Mae diwedd yr haf yn rhoi sioe yn yr Ardd.

Mae’r ffiwsias pinc llachar a rhuddgoch yn dod â’r Terasau’n fyw, gan greu pocedi lliwgar o ddiddordeb wrth i chi grwydro drwy’r ardd.

Oddi yno, crwydrwch ar lwybrau troellog ac o dan fwâu deiliog i’r Ardd Edwardaidd, lle mae rhosod yn blodeuo’n hardd. O arlliwiau golau, cain i arlliwiau cyfoethog, llachar, mae digon i’w weld, gyda mwy o flagur yn dal yn aros i agor.

P’un a ydych yn chwilio am liw tymhorol, dro heddychlon neu hoff fan i aros, dyma amser arbennig i ymweld a mwynhau’r ardd wrth i’r tymor ddechrau newid.

****

Late summer is putting on a show in the Garden.

Bright pink and crimson fuchsias bring the Terraces to life, creating colourful pockets of interest as you make your way through the garden.

From there, wander through winding paths and beneath leafy arches to the Edwardian Garden, where roses are blooming beautifully. From soft, delicate shades to rich, vibrant tones, there's plenty to discover, with more buds still waiting to open.

Whether you're seeking seasonal colour, a peaceful stroll or a favourite spot to pause, now is a wonderful time to visit and enjoy the garden as the seasons begin to change.

Cau Ystafelloedd y Castell | Castle Rooms Closure****I’n helpu i ofalu am y lle arbennig hwn, mae ystafelloedd y Castell...
21/08/2026

Cau Ystafelloedd y Castell | Castle Rooms Closure

****

I’n helpu i ofalu am y lle arbennig hwn, mae ystafelloedd y Castell ar gau ar hyn o bryd wrth i waith cadwraeth a chynnal a chadw hanfodol gael ei gwblhau. Byddwn yn eu hail-agor cyn gynted ag y gallwn, felly cadwch lygad ar ein gwefan a’r sianeli cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariad.

Y newyddion da yw bod yna gymaint er hynny i’w fwynhau yn ystod eich ymweliad. Mae Amgueddfa Clive, Yr Ystafell Ddawnsio, Yr Ardd, y caffis a’r siop oll ar agor o hyd gyda phrisiau mynediad cyfnodau distawach yn daladwy.

Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni gwblhau’r gwaith pwysig hwn i helpu i warchod y castell er budd cenedlaethau’r dyfodol.

****

To help us care for this special place, the Castle rooms are currently closed whilst essential conservation and maintenance take place. We’ll reopen them as soon as possible, so please keep an eye on our website and social media channels for the latest updates.

The good news is that there's still plenty to enjoy during your visit. The Clive Museum, Ballroom, Garden, cafés and shop all remain open with off-peak admission prices in effect.

Thank you for your patience and understanding as we carry out this important work to help preserve the castle for future generations to enjoy.

Hwyl yr Haf, Golygfeydd Godidog | Summer Fun, Stunning Views ****Wrth droed terasau hanesyddol Powis, mae’r Lawnt Fawr y...
21/08/2026

Hwyl yr Haf, Golygfeydd Godidog | Summer Fun, Stunning Views

****

Wrth droed terasau hanesyddol Powis, mae’r Lawnt Fawr yn llawn gemau a gweithgareddau i bob oed eu mwynhau gyda’i gilydd. O heriau cydbwyso a gemau bagiau ffa i chwaraeon clasurol a rasys côn, mae digonedd i ysbrydoli chwarae, sbarduno dychymyg a rhoi digon o adloniant i bawb.

P’un a ydych chi’n darganfod eich hoff gêm newydd, yn mynd i’r afael â her fel teulu neu’n syml, yn mwynhau amser gyda’ch gilydd yn yr awyr agored, mae digonedd o hwyl i’w gael.

Gyda golygfeydd eang, lliwiau llachar yr haf a lle i chwarae, archwilio a chysylltu, dyma’r lle perffaith i greu atgofion teuluol yr haf hwn.

****

At the foot of Powis’s historic terraces, the Great Lawn is filled with games and activities for all ages to enjoy together. From balancing challenges and beanbag games to classic sports and cone races, there’s plenty to inspire play, spark imaginations and keep everyone entertained.

Whether you're discovering a new favourite game, taking on a challenge as a family or simply enjoying time outdoors together, there's plenty of fun to be found.

With sweeping views, vibrant summer colours and space to play, explore and connect, this is the perfect place to make family memories this summer.

Sut fyddai Castell Powis yn ymddangos ar eich canfas chi? | What would Powis look like on your canvas?****Yr haf yma, ma...
14/08/2026

Sut fyddai Castell Powis yn ymddangos ar eich canfas chi? | What would Powis look like on your canvas?

****

Yr haf yma, mae’r artist lleol lucycaddel_art o Colour Now yn gwahodd ymwelwyr i archwilio’r tirweddau, y gerddi a’r golygfeydd o Gastell Powis drwy gelf.

🖌️ Ymunwch gydag un o’r ddau weithdy paentio awyr agored sydd ar ôl ar 20 Awst neu 10 Medi, gan gymryd ysbrydoliaeth o’r castell, y gerddi a’r Terasau hanesyddol.

🖼️ Gallwch ymweld ag arddangosfa Lucy yn yr Orendy o 4-7 Medi a darganfod casgliad o weithiau sydd wedi’u hysbrydoli gan harddwch Castell Powis a’r dirwedd o’i amgylch.

Dysgwch fwy ac archebwch eich lle mewn gweithdy drwy ein gwefan: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/powis-castle-and-garden/events

****

This summer, local artist lucycaddel_art of Colour Now is inviting visitors to explore the landscapes, gardens and views of Powis through art.

🖌️ Join one of Lucy’s two remaining outdoor painting workshops on 20 August or 10 September, taking inspiration from the castle, gardens and historic Terraces.

🖼️ Visit Lucy's exhibition in the Orangery from 4-7 September and discover a collection of works inspired by the beauty of Powis and the surrounding landscape.

Find out more and book your place on a workshop via our website: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/powis-castle-and-garden/events

Address

Powis Castle And Garden
Welshpool
SY218RF

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Powis Castle and Garden NT/YG Castell a Gardd Powis posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category