07/09/2026
Ymgynghoriad Rhwydwaith Teithio Llesol - cerdded, olwyno a beicio Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Fap Dyfodol Rhwydwaith Teithio Llesol Gwynedd, ac rydym yn gwahodd eich Cyngor a'ch cymuned i gymryd rhan.
Mae trigolion ledled Gwynedd yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar sut y gellir gwneud cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus.
Cerdded – Os ydych yn cerdded i'r gwaith, yr ysgol, y siopau neu am dro hamdden, mae eich profiadau'n bwysig. Rhannwch eich barn a helpwch ni i wneud cerdded yng Ngwynedd yn fwy diogel, cyfleus a chroesawgar i bawb.
Olwyno - Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd neu gymorth symudedd arall, rydym am glywed eich profiadau. Dywedwch wrthym os oes rhwystrau yr ydych yn eu hwynebu, a'r gwelliannau a allai wneud teithio o gwmpas Gwynedd yn haws ac yn fwy hygyrch.
Beicio – Os ydych yn beicio'n ddyddiol neu yn achlysurol, gall eich adborth helpu i lunio rhwydwaith beicio gwell ar gyfer y dyfodol. Rhannwch eich syniadau ar sut y gallwn greu llwybrau beicio mwy diogel, cysylltiedig a deniadol i bobl o bob oed a gallu.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol wedi'u diweddaru i Lywodraeth Cymru. Mae'r mapiau hyn yn helpu i gynllunio, blaenoriaethu a sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau i lwybrau cerdded, olwyno a beicio, gan gefnogi teithiau bob dydd mewn ffordd fwy diogel, hygyrch a chynaliadwy.
Fel rhan o'r broses hon, rydym yn awyddus i gasglu barn cynghorau lleol, cynghorwyr, trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol ar y rhwydwaith presennol ac ar gyfleoedd i'w wella yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar Ddydd Iau 26in o Dachwedd 2026. Gellir cyflwyno sylwadau drwy dudalen Map Data Cymru – Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol, sy'n cynnwys map rhyngweithiol lle gall pobl dynnu sylw at lwybrau newydd neu welliannau posibl i lwybrau presennol.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ymweld â: Ymgynghori Teithio Llesol Gwynedd 2026 | MapDataCymru
Ceir rhagor o wybodaeth am gerdded, olwyno a beicio yng Ngwynedd ar wefan y Cyngor https://gwynedd.urlsand.com/?u=https%3A%2F%2Fmapdata.llyw.cymru%2Fsurvey%2Fgwynedd-at-consultation-2026%2F&e=4d4dc0db&h=a9264035&f=y&p=y&m=4hK82t3C3mzNkGC
Mae copïau papur ar gael hefyd. I ofyn am gopi papur drwy'r post, cysylltwch â ni ar 01286 679426 neu drwy e-bost: [email protected] .
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn gyda'ch cymuned a chyflwyno unrhyw sylwadau neu awgrymiadau perthnasol ar ran eich Cyngor.
Bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried wrth i ni ddatblygu a chynllunio gwelliannau i rwydwaith cerdded, olwyno a beicio Gwynedd yn y dyfodol, lle bo hynny’n bosibl ac yn ymarferol.