20/11/2024
Mae bron 5 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gyngor Abertawe brynu Theatr y Palace, ac yn dilyn llawer o waith, penderfyniad a chefnogaeth, mae prosiect adfer Theatr y Palace bellach wedi'i gwblhau. Mae'n symud yn ei blaen a bydd yno am flynyddoedd i ddod er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau, ac fe'i rheolir bellach gan Tramshed Tech.
Trwy gydol y prosiect, rhannwyd diweddariadau'n rheolaidd ar y gwaith a wnaed, ac rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau eu derbyn. Rydym yn sicr wedi bod yn falch o'u rhannu â chi.
Diolch am eich holl gefnogaeth - rydym wedi bod yn falch o'i derbyn ac yn ei gwerthfawrogi'n fawr.
Ni fyddwn yn cau'r dudalen rhag ofn eich bod am edrych yn ôl ar rai o'r diweddariadau, ond ni fyddwn yn rhannu unrhyw ddiweddariadau pellach.
Cyn i ni adael, ac ar gyfer ein diweddariad diwethaf, rydym yn falch o rannu'r fideo treigl amser hwn o'r gwaith adfer.
Diolch!!
Cyngor Abertawe