Maethu Cymru Abertawe

Maethu Cymru Abertawe Ni yw Maethu Cymru Abertawe – un o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n rhan o Maethu Cymru.

Maethu yn Abertawe - cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol. Ein prif flaenoriaeth yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned. Gellir rhwystro pobl sy'n postio gwybodaeth niweidiol, anghywir neu gamarweiniol, sbam neu sy'n trolio'n sarhaus. Gallwch ddod o hyd i'n tudalen Facebook Cymraeg yn www.facebook.com/fosterwalesswansea

Allwch chi ddim newid gorffennol plentyn... ond gallech helpu i newid ei ddyfodol. ❤️Mae pob plentyn yn haeddu rhywun sy...
06/09/2026

Allwch chi ddim newid gorffennol plentyn... ond gallech helpu i newid ei ddyfodol. ❤️

Mae pob plentyn yn haeddu rhywun sy'n credu ynddo, yn ei annog, ac yn ei helpu i deimlo'n ddiogel.

Mae llawer o bobl yn meddwl bod maethu ar gyfer rhai mathau o bobl yn unig, ond y gwir yw bod llai o rwystrau nag y byddech chi'n meddwl. Mae gofalwyr maeth yn dod o bob cefndir, a'r hyn sy'n bwysicaf yw cael y tosturi a'r ymrwymiad i wneud gwahaniaeth.

Rydyn ni'n onest ynglŷn â maethu. Bydd diwrnodau heriol. Bydd angen amynedd, dealltwriaeth a chefnogaeth ychwanegol ar rai plant wrth iddynt wella o brofiadau anodd.

Ond mae'r gwobrau'n anhygoel. Dychmygwch helpu plentyn i fagu hyder, adeiladu ymddiriedaeth, cyflawni yn yr ysgol, neu deimlo'n ddigon diogel i fod yn fe ei hun. Gofynnwch i ofalwyr maeth beth maen nhw'n ei gofio fwyaf, a byddant yn dweud wrthych am y wên gyntaf, y cyflawniad cyntaf, y tro cyntaf i blentyn ddechrau credu ynddo’i hun eto.

Dyma'r eiliadau y mae gofalwyr maeth yn dweud wrthym nad ydyn nhw byth yn eu hanghofio.

Does dim angen i chi fod yn berffaith. Mae angen i chi ddarparu gofal.

Oherwydd weithiau mae newid stori plentyn yn dechrau gydag agor eich drws.

Allech chi fod y person sy'n ailysgrifennu stori plentyn ac yn helpu i greu dyfodol mwy disglair iddo?

❤️ Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am faethu.

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru


# NewidiwchStoriPlentyn

"Byddwn wrth fy modd yn maethu, ond alla’i ddim ei fforddio."Dyma un o'r pethau mwyaf cyffredin rydyn ni'n ei glywed.Y g...
04/09/2026

"Byddwn wrth fy modd yn maethu, ond alla’i ddim ei fforddio."

Dyma un o'r pethau mwyaf cyffredin rydyn ni'n ei glywed.

Y gwir yw bod gofalwyr maeth yn derbyn cymorth a***nnol fel nad ydyn nhw ar eu colled wrth ofalu am blentyn.

Nid yw pobl yn dod yn ofalwyr maeth ar gyfer yr a***n. Maen nhw'n ei wneud i helpu plant i deimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu caru.

Mae cymorth a***nnol yn syml yn gwneud maethu’n bosib i fwy o bobl.

Allech chi wneud gwahaniaeth i blentyn lleol?

❤️ Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am faethu. ❤️

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru


# NewidiwchStoriPlentyn

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed a allai maethu fod yn iawn i chi?Ymunwch â ni yn ein noson wybodaeth ar-lein sydd ar ...
02/09/2026

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed a allai maethu fod yn iawn i chi?

Ymunwch â ni yn ein noson wybodaeth ar-lein sydd ar ddod i gwrdd â'n tîm maethu cyfeillgar.

✅ Darganfyddwch sut gallwch ddod yn ofalwr maeth a beth mae'r rôl yn ei olygu.
✅ Dysgwch am y gwahanol fathau o faethu.
✅ Dysgwch am y gefnogaeth helaeth y byddwch chi'n ei derbyn.
✅ Gofynnwch gwestiynau yng nghysur eich cartref eich hun.
✅ Cewch glywed gan ofalwyr maeth profiadol.

📆Dydd Iau, 17 Medi
🕛6pm–7pm

Cadwch eich lle heddiw drwy e-bostio [email protected] neu ffoniwch (01792) 636103.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi mewn modd rhithwir ac ateb eich cwestiynau am faethu! Peidiwch ag anghofio’ch paned!

Allech chi newid bywyd plentyn? 💙Os ydych chi erioed wedi meddwl am faethu ond heb fod yn siŵr ynghylch ble i ddechrau, ...
27/08/2026

Allech chi newid bywyd plentyn? 💙

Os ydych chi erioed wedi meddwl am faethu ond heb fod yn siŵr ynghylch ble i ddechrau, mae ein blog diweddaraf yn esbonio popeth y mae angen i chi ei wybod am ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Abertawe.

O wneud ymholiad cychwynnol i ddod yn ofalwr maeth cymeradwy, rydym wedi rhannu'r broses yn gamau syml, hawdd eu dilyn. Byddwch hefyd yn dysgu am yr hyfforddiant, y gefnogaeth a'r lwfansau a***nnol sydd ar gael ar bob cam o'r ffordd.
Waeth be fo'ch cefndir, os gallwch gynnig cartref diogel, sefydlog a gofalgar, gallech wneud gwahaniaeth parhaol i blentyn neu berson ifanc lleol.

📖Darllenwch y blog i gael gwybod sut y gallai eich taith faethu ddechrau gyda sgwrs syml.

Yn barod i wneud gwahaniaeth? Gallwch ddarganfod sut i ddod yn ofalwr maeth yn Abertawe, gan gynnwys pob cam o'r broses a sut i wneud cais.

24/08/2026

Mae pob plentyn yn haeddu cartref diogel a chariadus. 🏠
Mae sawl ffordd o faethu, fel gofal maeth tymor byr, gofal maeth tymor hir, gofal maeth seibiant a gofal maeth arbenigol. Gwyliwch ein fideo diweddaraf i ddysgu am y mathau gwahanol o ofal maeth ac i gael gwybod sut gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn.

Nid yw’r broses o ddod yn ofalwr maeth ar gyfer eich cyngor lleol mor gymhleth ag y byddech chi’n ei feddwl. Ydych chi’n...
20/08/2026

Nid yw’r broses o ddod yn ofalwr maeth ar gyfer eich cyngor lleol mor gymhleth ag y byddech chi’n ei feddwl.

Ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf? Os felly, cysylltwch â ni a gallwn roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Mae’r gefnogaeth a dderbyniwch gennym yn dechrau’n syth, nid ar ôl i chi ddod yn ofalwr maeth!

🌐 https://abertawe.maethucymru.llyw.cymru/

18/08/2026
Nid yw’r broses o ddod yn ofalwr maeth ar gyfer eich cyngor lleol mor gymhleth ag y byddech chi’n ei feddwl. Mae’r gefno...
17/08/2026

Nid yw’r broses o ddod yn ofalwr maeth ar gyfer eich cyngor lleol mor gymhleth ag y byddech chi’n ei feddwl.

Mae’r gefnogaeth a dderbyniwch gennym yn dechrau’n syth, nid ar ôl i chi ddod yn ofalwr maeth! Ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf? Os felly, cysylltwch â ni a gallwn roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
🌐 https://abertawe.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

10/08/2026

Oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am faethu a'r hyn mae'n ei olygu?

Efallai eich bod eisiau gwybod mwy am y rôl, pa mor hir mae'r broses yn ei chymryd, gwirio i weld a fyddai unrhyw beth yn eich atal rhag maethu, p'un a allwch chi faethu a gweithio, neu'n eisiau gwybod os yw maethu'n iawn i chi.

Os felly, beth am ofyn am alwad yn ôl gan aelod o'n tîm profiadol?

Rydym yn cydnabod bod gan bobl fywydau prysur ac efallai nad oes ganddynt yr amser i ymweld â ni yn un o'n digwyddiadau, neu efallai fod diwrnodau/amserau penodol sy’n fwy addas iddynt er mwyn cael sgwrs i drafod maethu.

O ganlyniad, mae bellach gennym system galw yn ôl ar ein gwefan felly os hoffech gael sgwrs anffurfiol gydag aelod o'n tîm, dewiswch un o'r slotiau amser rhydd sydd fwyaf addas i chi.

Address

Neuadd Y Ddinas
Swansea
SA14PE

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Maethu Cymru Abertawe posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Maethu Cymru Abertawe:

Shortcuts

Share