31/03/2026
Rydyn ni'n agor yfory | We open tomorrow
****
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi’n ôl i Ddolaucothi eleni! Dros y gaeaf, rydym wedi bod yn brysur yn gwneud gwelliannau a fydd, gobeithio, yn gwneud eich ymweliad hyd yn oed yn well.
I ganiatáu rhagor o fynediad i’r mwyngloddiau aur Rhufeinig, rydym wedi gwneud newidiadau fel bod y Mwynglawdd Rhufeinig bellach yn hygyrch i ymwelwyr heb orfod archebu ymlaen llaw. Wrth gyrraedd, bydd ymwelwyr yn derbyn ffob a fydd yn caniatáu mynediad am ddim i’r mwynglawdd drwy gydol y dydd.
I’r rhai sydd eisiau profiad o fod yn ddyfnach o dan y ddaear, mae teithiau tywys o’r Mwynglawdd Fictoraidd a’r Daith Wastad ar gael i’w harchebu ymlaen llaw. Mae’r teithiau hyn, dan arweiniad arbenigwyr, yn datgelu cyfrinachau mwyngloddio Aur ac yn mynd â chi o dan yr wyneb i’r mwyngloddiau eu hunain. Noder y codir tâl ar aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau am deithiau tywys.
Gallwch barhau i ddarganfod hanes cyfoethog mwyngloddio aur yn yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig yng Nghymru drwy iard y mwynglawdd, y ganolfan faes, a thrwy roi cynnig ar chwilio am aur.
Mwy o wybodaeth yma: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/dolaucothi
****
We can’t wait to welcome you back to Dolaucothi this year! Over the winter, we’ve been hard at work making improvements that we hope will make your visit even better.
To allow more access to the Roman gold mines, we’ve made changes so that the Roman Mine is now accessible to visitors without the need to pre-book. On arrival, visitors will receive a fob that allows free access to the mine throughout the day.
For those seeking a deeper underground experience, pre-booked guided tours of the Victorian Mine and Level Mine are available. Led by expert guides, these tours reveal the secrets of Gold mining and take you beneath the surface into the mines themselves. Please note that a tour fee applies to both members and non-members.
You can continue to discover the rich history of gold mining at the only known Roman gold mine in Wales through the mine yard, field centre, and by having a go at gold panning.
Find out more here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/dolaucothi