Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Castell-nedd Port Talbot Y newyddion diweddaraf a digwyddiadau lleol o Port Talbot. Byddwn ni ymateb cwestiynau mor fuan â phosib (Llun-Gwener, 9-5).

Follow www.facebook.com/NeathPortTalbotCBC for English language updates Tudalen Facebook swyddogol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Rydym yn cadw’r hawl i ddileu negeseuon unrhyw sy’n aflonyddgar, ymosodol neu difrïol. Gallai hyn gynnwys negeseuon sy'n cynnwys rhegi neu datganiadau enllibus. Byddem wrth ein boddau gyda'n posts yma i sbarduno trafodaeth a sgwrs am y straeon a'r m

aterion sy'n effeithio ar Gastell-nedd Port Talbot. Rydym yn annog trafodaeth wirioneddol ar ein tudalen Facebook, ond efallai y byddwn yn dileu sylwadau sy'n anghyfreithlon, yn sarhaus neu'n faleisus. Gall pobl sy'n postio gwybodaeth niweidiol, anghywir neu gamarweiniol, sbam neu drolio sarhaus gael eu rhwystro. Os nad yw eich sylw neu'ch cyfraniad wedi'i gyhoeddi, ystyriwch y pwyntiau uchod hyn ac ailgyflwyno eich sylw gan barchu'r canllawiau hyn. Gofynnwn i gyfranwyr barchu cyd-drigolion, busnesau a'n staff drwy ddilyn ein canllawiau cymunedol.

🎡Archwiliwch Hanes 700 mlynedd Neath Great Fair! 🎡Wrth i chi gyfri'r diwrnodau tan Neath Great Fair eleni, beth am fynd ...
08/09/2026

🎡Archwiliwch Hanes 700 mlynedd Neath Great Fair! 🎡

Wrth i chi gyfri'r diwrnodau tan Neath Great Fair eleni, beth am fynd 'nôl mewn amser ac archwilio stori ddiddorol un o draddodiadau hynaf Castell-nedd?

Os ydych yn dwlu ar ffeiriau, yn hoff o greu modelau neu'n chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud gyda'r teulu, mae hwn yn ychwanegiad gwych i ddathliadau'r ffair eleni.

📅Dydd Mawrth 25 Awst i ddydd Sadwrn 12 Medi
📍Llyfrgell Castell-nedd

Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot

Mae heddiw'n nodi pedair blynedd ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, ar 8 Medi 2022.Sut ydych chi'n cofio'r Frenhin...
08/09/2026

Mae heddiw'n nodi pedair blynedd ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, ar 8 Medi 2022.

Sut ydych chi'n cofio'r Frenhines Elizabeth? Gwahoddir pobl ledled y DU, y Gymanwlad a thu hwnt i fapio eu hatgofion o'r frenhines a deyrnasodd hiraf ar Brydain.

Gwefan newydd yw Cofeb Ddigidol y Frenhines Elizabeth i fapio'r prif adegau ym mywyd a theyrnasiad Y Frehines Elizabeth, a hynny'n gofnod parhaol i genedlaethau'r dyfodol.

07/09/2026

Gall yr wythnos gyntaf yn ôl yn yr ysgol deimlo'n wyllt.

Gwisg wedi'i golchi ✅
Câs pensiliau yn y bag ✅
Ffurflenni wedi'u llofnodi ✅

Os yw costau ysgol yn cynyddu, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael hyd at £200 drwy'r Grant Hanfodion Ysgol.

⚠️Sylwer y bydd llwybr troed Rhaeadr Pontneddfechan ar gau dros dro ar 10 ac 11 Medi i alluogi gwaith ymchwilio tir ange...
07/09/2026

⚠️Sylwer y bydd llwybr troed Rhaeadr Pontneddfechan ar gau dros dro ar 10 ac 11 Medi i alluogi gwaith ymchwilio tir angenrheidiol.

Mae'r gwaith yn rhan o broses barhaus i ymdrin ag erydiad glan yr afon sy'n culhau rhannau penodol o'r llwybr cerdded poblogaidd hwn a’i drwsio.

Ni cheir mynediad drwy'r rhan a effeithiwyd yn ystod y cyfnod hwn. Ceir llwybr amgen i Raeadr Sgwd Gwladys drwy'r llwybr troed ger hen safle Ysgol Gynradd Thomas Stephens.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi ac yn diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i'r gwaith pwysig hwn fynd rhagddo.💚

Ymunwch â ni yn Llyfrgell Castell-Nedd yn ystod Wythnos Dysgwyr Oedrannus ar gyfer ffair gyflogaeth.Bydd yn rhoi cyfle i...
06/09/2026

Ymunwch â ni yn Llyfrgell Castell-Nedd yn ystod Wythnos Dysgwyr Oedrannus ar gyfer ffair gyflogaeth.

Bydd yn rhoi cyfle i drigolion siarad â sefydliadau lleol sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i ddod o hyd i waith, ac i ddysgu am gyfleoedd gwirfoddoli lleol.

📅Dydd Mawrth 22 Medi 10am - 12pm⏰

🎡 Hud y ffair fach 🎡 Wrth i’r cyffro adeiladu ar gyfer Neath Great Fair, rydym yn falch o gyhoeddi atyniad newydd sbon a...
04/09/2026

🎡 Hud y ffair fach 🎡

Wrth i’r cyffro adeiladu ar gyfer Neath Great Fair, rydym yn falch o gyhoeddi atyniad newydd sbon ar gyfer 2026!

Ddydd Sadwrn 12 Medi, dewch i Lyfrgell Castell-nedd a phrofwch arddangosfa ddiddorol o reidiau ffair fach weithredol.

Yn ogystal â hyn, diolch i gefnogaeth gan The Showmen's Guild, gall ymwelwyr ymweld â phethau cofiadwy o'r ffair a darganfod y dreftadaeth gyfoethog tu ôl i un o draddodiadau mwyaf poblogaidd Prydain.

📍 Llyfrgell Castell-nedd
📅 Dydd Sadwrn 12 Medi Beth yw'ch hoff reid yn Ffair Castell-nedd?

Rhowch wybod i ni yn y sylwadau isod👇

Mynnwch ddweud eich dweud am fyw yng Nghastell-nedd Port Talbot 🗣Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr rannu'u barn am fyw yng N...
04/09/2026

Mynnwch ddweud eich dweud am fyw yng Nghastell-nedd Port Talbot 🗣

Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr rannu'u barn am fyw yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor.

Rydyn ni wedi lansio 'Dewch i Sgwrsio: Byw yn CNPT 2026', arolwg sy'n gofyn i chi am eich profiad o fyw yn y fwrdeistref sirol, eich barn am wasanaethau'r cyngor, y blaenoriaethau rydych chi'n meddwl y dylai'r cyngor roi pwyslais arnyn nhw, a sut rydych chi'n ymwneud â ni.

Bydd eich adborth yn helpu i roi ffurf ar gynlluniau a blaenoriaethau'r cyngor i'r dyfodol, gan sicrhau fod gennym ni well dealltwriaeth o'r hyn sy'n cyfri fwyaf i gymunedau lleol.

Mae'r arolwg yn cau ar 27 Hydref 2026 ac mae'n agored i unrhyw un sy'n 16 neu hŷn ac sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Dewch i Sgwrsio: Byw yn CNPT yn rhan o raglen arolwg i breswylwyr cenedlaethol a gydlynwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) i helpu cynghorau ledled Cymru gryfhau ymgysylltiad a gwella gwasanaethau ar gyfer preswylwyr.

Swydd yr Wythnos: ⭐Swyddi gwag glanhau⭐Rydym yn edrych am lanhawyr mewn nifer o leoliadau ar draws y sir! Ar hyn o bryd,...
03/09/2026

Swydd yr Wythnos:

⭐Swyddi gwag glanhau⭐

Rydym yn edrych am lanhawyr mewn nifer o leoliadau ar draws y sir! Ar hyn o bryd, mae swyddi gwag yn:

🟢Y Ceiau (Baglan)
🟢Ysgol Gynradd Awel y Môr
🟢YGG Castell-nedd

Os oes gennych ddiddordeb yn y swyddi hyn, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chyflwyno cais ar ein gwefan.

Ac os ydych chi'n adnabod unrhyw un sy'n edrych am y math hwn o rôl, tagiwch nhw yn y sylwadau.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17/09/2026 📅

Mynnwch ddweud eich dweud am fyw yng Nghastell-nedd Port TalbotRydyn ni'n gofyn i breswylwyr rannu'u barn am fyw yng Ngh...
03/09/2026

Mynnwch ddweud eich dweud am fyw yng Nghastell-nedd Port Talbot

Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr rannu'u barn am fyw yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor.

Rydyn ni wedi lansio 'Dewch i Sgwrsio: Byw yn CNPT 2026', arolwg sy'n gofyn i chi am eich profiad o fyw yn y fwrdeistref sirol, eich barn am wasanaethau'r cyngor, y blaenoriaethau rydych chi'n meddwl y dylai'r cyngor roi pwyslais arnyn nhw, a sut rydych chi'n ymwneud â ni.

Bydd eich adborth yn helpu i roi ffurf ar gynlluniau a blaenoriaethau'r cyngor i'r dyfodol, gan sicrhau fod gennym ni well dealltwriaeth o'r hyn sy'n cyfri fwyaf i gymunedau lleol.

Gallwch lenwi'r arolwg ar lein yma: https://www.npt.gov.uk/cy/cyngor/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau/

Mae'r arolwg yn cau ar 27 Hydref 2026 ac mae'n agored i unrhyw un sy'n 16 neu hŷn ac sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gellir cael copïau papur o'r holiadur oddi wrth lyfrgelloedd lleol, Canolfan Ddinesig Castell-nedd a Chanolfan Ddinesig Port Talbot.

Os na allwch chi lenwi'r arolwg ar lein na chasglu copi caled, gallwch ofyn am un drwy anfon e-bost at [email protected].

Mae Dewch i Sgwrsio: Byw yn CNPT yn rhan o raglen arolwg i breswylwyr cenedlaethol a gydlynwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) i helpu cynghorau ledled Cymru gryfhau ymgysylltiad a gwella gwasanaethau ar gyfer preswylwyr.

🎬 Mae Penwythnos Sinema Cenedlaethol yn dychwelyd!Ymunwch â sinemâu sy'n cymryd rhan y penwythnos hwn a mwynhewch docynn...
02/09/2026

🎬 Mae Penwythnos Sinema Cenedlaethol yn dychwelyd!

Ymunwch â sinemâu sy'n cymryd rhan y penwythnos hwn a mwynhewch docynnau sinema am £4 yn unig ! (5th a 6th o Fedi)

Bydd Neuadd Gwyn, Canolfan Celfyddydau Pontardawe a Sinema Reel Port Talbot yn cymryd rhan, felly dyma’r cyfle perffaith i gefnogi sinemâu lleol a mwynhau ffilm ar y sgrîn fawr yn rhatach.

Gyda thocynnau am £4 yn unig, pwy fyddwch chi'n ei wahodd? 🍿

Address

Canolfan Ddinesig Port Talbot
Port Talbot
SA131PJ

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 5pm
Friday 8:30am - 4:30pm

Telephone

+441639686868

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Castell-nedd Port Talbot posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share