19/12/2025
*English below*
🌄 Ffarweliad Cynnes gan Bartneriaeth Tirwedd Carneddau 🌄
Wrth i brosiect Partneriaeth Tirwedd Carneddau ddod i ben, rydym am gymryd eiliad i fyfyrio ar yr hyn a fu'n daith anhygoel.
Dros y 5 mlynedd diwethaf, ynghyd â'n partneriaid, gwirfoddolwyr, ffermwyr, cymunedau, ysgolion a chefnogwyr, rydym wedi gweithio i ddathlu, amddiffyn ac ailgysylltu pobl â thirweddau, bywyd gwyllt, treftadaeth a straeon arbennig y Carneddau. Trwy'r gwaith mewn mynediad, cadwraeth a threftadaeth ddiwylliannol, mae cynefinoedd wedi'u hadfer, nodweddion hanesyddol wedi'u cadw a mae sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau bythgofiadwy wedi'u rhannu.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd eu hamser, eu hangerdd, eu harbenigedd a'u brwdfrydedd. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl hebdoch chi. Mae'r Carneddau yn parhau i fod yn dirwedd fyw, weithredol, ac er y gallai'r prosiect penodol hwn fod yn dod i ben, bydd ei effaith a'i etifeddiaeth yn parhau trwy'r berthnasoedd a adeiladwyd rhwng partneriaid a chymunedau a'r wybodaeth a rennir. Gyda'n gilydd byddwn yn parhau i ddarganfod, amddiffyn a dathlu'r Carneddau.
Mae ein gwefan yn parhau ar agor a gallwch ymweld â hi yma: https://partneriaethcarneddau.cymru/
Ein sianel youtube: https://www.youtube.com/
Diolch i chi am fod yn rhan o stori'r Carneddau. 💚
🌄 A Fond Farewell from Carneddau Landscape Partnership 🌄
As the Carneddau Landscape Partnership project comes to a close, we want to take a moment to reflect on what has been an incredible journey.
Over the past 5 years, together with our partners, volunteers, farmers, communities, schools, and supporters, we have worked to celebrate, protect, and reconnect people with the special landscapes, wildlife, heritage, and stories of the Carneddau. Through the work in access, conservation and cultural heritage habitats have been restored, historical features conserved and skills, knowledge, and unforgettable experiences have been shared.
We are immensely grateful to everyone who gave their time, passion, expertise, and enthusiasm. None of this would have been possible without you. The Carneddau remains a living, working landscape, and while this particular project may be ending, its impact and legacy will continue through the relationships built between partners and communities and the knowledge shared. Together we will continue to discover, protect and celebrate the Carneddau.
Our website remains open and you can visit it here: https://carneddaupartnership.wales/
Our youtube channel: https://www.youtube.com/
Thank you for being a part of the Carneddau Landscape Partnership’s story. 💚