16/06/2026
*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows
Bydd Finley yn ymgymryd â her nofio marathon dŵr agored 42.2km o hyd yng Nghronfa Ddŵr Llys y Frân ar 30 Awst - gan godi a***n ar gyfer Cancer Research UK ac UNICEF, ac mae £2,500 eisoes wedi'i godi!
Bydd yn cael ei gefnogi trwy gydol yr her gan Dîm Diogelwch ac Achubwyr Bywyd ymroddedig. Mae ei baratoadau yn cynnwys cymysgedd o hyfforddiant yn y pwll, sesiynau dygnwch, gwaith yn y gampfa ac ymarfer dŵr agored, wrth iddo adeiladu'r cryfder corfforol a meddyliol sydd ei angen.
Yn bencampwr Cymru ar sawl achlysur ac yn y 10 uchaf yn y DU am nofio dŵr agored, mae Finley hefyd yn gweithio yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd fel achubwr bywyd ac athro nofio, yr un cyfleuster lle y dysgodd ef i nofio a lle y cafodd ei hyfforddi ers ei fod yn 8 oed. Yno hefyd y datblygodd ei yrfa gystadleuol. Mae'n dweud bod cael defnyddio'r cyfleusterau wedi caniatáu iddo baratoi ar gyfer yr her hon, a datblygu fel nofiwr a pherson.
Ei gyngor i eraill? Peidiwch â bod ofn dechrau cyn i chi deimlo'n barod, byddwch yn gyson, a phwyso ar gefnogaeth o'ch cwmpas.
Pob lwc, Finley—rydyn ni i gyd yn dy gefnogi! 👏
Gallwch ddilyn Finley a’i gefnogi ar ei daith ar:
Instagram a TikTok .swimforimpact
-
Finley is taking on an incredible 42.2km open water marathon swim at Llys y Fran Reservoir on 30th August —raising funds for Cancer Research UK and UNICEF, with £2,500 already raised!
He will be supported throughout by a dedicated Safety Team and Lifeguards. His preparation includes a mix of pool training, endurance sessions, gym work and open water practice, as he builds both the physical and mental strength needed.
A multiple Welsh champion and top 10 UK open water swimmer, Finley also works at Haverfordwest Leisure Centre as both a lifeguard and swimming teacher, the same facility where he learned to swim, trained from age 8, and developed his competitive career. He says that having access to the facilities has allowed him to prepare for this challenge, and develop both as a swimmer and a person.
His advice to others? Don’t be afraid to start before you feel ready, stay consistent, and lean on support around you.
Good luck, Finley—we’re all behind you! 👏
You can follow and support Finley on his journey:
Instagram & TikTok .swimforimpact