Awdurdod Cyllid Cymru

Awdurdod Cyllid Cymru Byddwch yn barod i gofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru.

👋 Cyflawni dros Gymru, gyda'n gilydd O arbenigedd technegol i arweiniad ymarferol, roeddem yn falch o gefnogi Cyngor Cae...
09/09/2026

👋 Cyflawni dros Gymru, gyda'n gilydd

O arbenigedd technegol i arweiniad ymarferol, roeddem yn falch o gefnogi Cyngor Caerdydd drwy ei ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr.

Ers i Gyngor Caerdydd gyhoeddi ei benderfyniad i gyflwyno ardoll, rydym wedi parhau i gydweithio â nhw i helpu darparwyr llety i baratoi.

Dysgwch fwy am ein gwaith partneriaeth yn ein hadroddiad blynyddol 2025 i 2026: https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru-adroddiad-blynyddol-chyfrifon-2025-2026-html

07/09/2026

Tair wythnos i fynd. ⏳

Ydych chi'n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghaerdydd? Os ydych chi, mae hyn yn berthnasol i chi.

O 28 Medi, bydd yr Ardoll Ymwelwyr yn berthnasol i'ch archebion am arosiadau o 1 Ebrill 2027 ymlaen.

Os ydych chi’n rhedeg gwesty, Gwely a Brecwast, llety hunanarlwyo, safle gwersylla, neu unrhyw fath arall o lety ymwelwyr, mae hyn yn berthnasol i chi.

📖 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n barod, darllenwch ein canllaw 10 cam: https://www.gov.wales/visitor-levy-accommodation-providers-steps

Mae mis Medi wedi cyrraedd, ac mae hynny'n golygu bod yr Ardoll Ymwelwyr ar ei ffordd. ⏳ Os ydych chi'n derbyn archebion...
04/09/2026

Mae mis Medi wedi cyrraedd, ac mae hynny'n golygu bod yr Ardoll Ymwelwyr ar ei ffordd. ⏳

Os ydych chi'n derbyn archebion am arosiadau dros nos yng Nghaerdydd, mae’r amser yn dod!

O 28 Medi ymlaen, bydd angen i chi roi cyfrif am yr ardoll ar archebion newydd, ac ar unrhyw newidiadau a wneir i archebion sydd gennych eisoes am arosiadau o 1 Ebrill 2027 ymlaen.

Darllenwch y canllaw llawn a pharatowch heddiw: https://www.llyw.cymru/yr-ardoll-ymwelwyr-ddarparwyr-llety-camau

Mae mis Medi wedi cyrraedd, ac mae hynny’n golygu y bydd yr Ardoll Ymwelwyr yma cyn bo hir. 🍂 Os ydych chi'n derbyn arch...
01/09/2026

Mae mis Medi wedi cyrraedd, ac mae hynny’n golygu y bydd yr Ardoll Ymwelwyr yma cyn bo hir. 🍂

Os ydych chi'n derbyn archebion am arosiadau dros nos yng Nghaerdydd, mae’r Ardoll Ymwelwyr yn dechrau bod yn berthnasol i'ch archebion o 28 Medi 2026.

Darllenwch y canllawiau llawn a dechreuwch baratoi heddiw: https://www.llyw.cymru/yr-ardoll-ymwelwyr-ddarparwyr-llety-camau

Disgrifiadau Delweddau:

Disgrifiad Delwedd — Sleid 1:
Llun o Fae Caerdydd gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, yr Adeilad Pierhead a chwch bach ar y dŵr. Mae'r testun yn darllen: "Mae'n fis Medi. Beth mae hyn yn ei olygu i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghaerdydd?". Mae logos Cyngor Caerdydd ac ACC i'w gweld yn y gornel isaf.

Disgrifiad Delwedd — Sleid 2:
Yr un llun o Fae Caerdydd â sleid 1. Mae'r testun yn darllen: "O 28 Medi, bydd angen i chi ddechrau rhoi cyfrif am Ardoll Ymwelwyr ar eich archebion." Mae logos Cyngor Caerdydd ac ACC i'w gweld yn y gornel isaf.

Disgrifiad Delwedd — Sleid 3:
Yr un llun o Fae Caerdydd â sleidiau 1 a 2. Mae'r testun yn darllen: "Paratowch nawr. Darllenwch y canllawiau llawn yn llyw.cymru/ardoll-ymwelwyr-yng-nghymru." Mae logos Cyngor Caerdydd ac ACC i'w gweld yn y gornel isaf.

Meddwl tybed pryd y bydd angen i chi ffeilio a thalu Ardoll Ymwelwyr i ACC? Os ydych chi'n ffeilio'n chwarterol, eich dy...
30/08/2026

Meddwl tybed pryd y bydd angen i chi ffeilio a thalu Ardoll Ymwelwyr i ACC?

Os ydych chi'n ffeilio'n chwarterol, eich dyddiad cau cyntaf yw 29 Awst 2027, ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 30 Mehefin 2027.

Os ydych chi'n ffeilio'n flynyddol, eich dyddiad cau cyntaf yw 31 Mai 2028, ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2027 i 31 Mawrth 2028.

Mae a ydych chi’n ffeilio'n chwarterol neu'n flynyddol yn dibynnu ar faint rydych chi'n disgwyl y byddwch yn ei dalu, gall ein canllaw 10 cam eich helpu i benderfynu pa un sy’n berthnasol i chi:

https://www.llyw.cymru/yr-ardoll-ymwelwyr-ddarparwyr-llety-camau

Y mis yma, aeth Manon a Claire o'n tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid allan i strydoedd Caerdydd! Buon nhw'n gweithio gyda C...
28/08/2026

Y mis yma, aeth Manon a Claire o'n tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid allan i strydoedd Caerdydd! Buon nhw'n gweithio gyda Chyngor Caerdydd i ddosbarthu taflenni i fusnesau lleol, gan sgwrsio â darparwyr llety am yr Ardoll Ymwelwyr sydd ar y ffordd.

📬 Darllenwch y stori yma, a llawer mwy, yn ein cylchlythyr diweddaraf: https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CY/bulletins/4270ca1

📢 Swyddi'r wythnos  ⭐ 2 x Swyddog Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Cenedlaethol (Cymraeg yn Hanfodol i 1 rôl)  Sesiynau gwyb...
24/08/2026

📢 Swyddi'r wythnos

⭐ 2 x Swyddog Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Cenedlaethol (Cymraeg yn Hanfodol i 1 rôl)
Sesiynau gwybodaeth i ymgeiswyr: Dydd Llun 24 Awst am 12:30pm a 4:00pm
Dyddiad cau: Dydd Llun 31 Awst

⭐ Peiriannydd Seilwaith
Sesiynau gwybodaeth i ymgeiswyr: Dydd Mercher 26 Awst am 12:30pm a 4:00yp
Dyddiad cau: Dydd Mercher 2 Medi

⭐ Uwch Gynghorydd Polisi
Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: Dydd Mercher 26 Awst am 11:45yb
Dyddiad cau: Dydd Iau 3 Medi

⭐ Rheolwr y Ddesg Gymorth (swydd Cymraeg Hanfodol)
Sesiynau gwybodaeth i ymgeiswyr: Dydd Iau 27 Awst am 12:30pm a 4:00yp
Dyddiad cau: Dydd Sul 6 Medi

Ymgeisiwch nawr: https://www.civilservicejobs.service.gov.uk/csr/index.cgi?SID=Y29udGV4dGlkPTIwNTQ1MzA3MyZwYWdlYWN0aW9uPXNlYXJjaGNvbnRleHQmcGFnZWNsYXNzPVNlYXJjaCZsX3ByZWZfdT1zJnNvcnQ9Y2xvc2luZyZvd25lcj01MDcwMDAwJm93bmVydHlwZT1mYWlyJnBhZ2U9MSZyZXFzaWc9MTc4NzMxMzQzOS04MDg3ZmNmNzRiYWQ5NmIzNTdhOGIzNjI0NWQyZDhiZGUxNWNiYjcw

📍 Byddwn ni yn Ffair Swyddi Caerdydd! Bydd gennym stondin yn Ffair Swyddi Caerdydd eleni, ddydd Iau 24 Medi, yn Chwaraeo...
22/08/2026

📍 Byddwn ni yn Ffair Swyddi Caerdydd!

Bydd gennym stondin yn Ffair Swyddi Caerdydd eleni, ddydd Iau 24 Medi, yn Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia. P'un ai eich bod yn chwilio am swydd neu'n chwilfrydig am yrfa gyda ni, dewch i ddweud helo, byddem wrth ein bodd yn sgwrsio â chi!

Dyddiad: Dydd Iau 24 Medi
Lleoliad: Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
Amser: 10am i 2pm

Archebwch eich tocyn: https://www.eventbrite.co.uk/e/the-cardiff-jobs-fair-tickets-1990979864370?msockid=397078d8ae2f619b256e6e3eaf0660a8

21/08/2026

Paratoi ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd

Rydym yn cynnal sesiynau paratoi dwyieithog rhad ac am ddim i gefnogi darparwyr llety ymwelwyr cyn y newidiadau sydd i ddod. P'un ai eich bod yn rhedeg gwesty, llety tymor byr, safle gwersylla neu unrhyw fath arall o lety ymwelwyr, mae'r sesiynau hyn ar eich cyfer chi.

Byddwch yn dysgu beth mae'r ardoll yn ei olygu i'ch busnes chi, yn cael canllawiau ymarferol ar baratoi, a’r cyfle i ofyn eich cwestiynau’n uniongyrchol i arbenigwyr Awdurdod Cyllid Cymru.

🗓️ Wyneb yn wyneb: Dydd Mercher 9 Medi, 11am i 1pm
💻 Ar-lein: Dydd Iau 10 Medi, 6pm i 7pm

Cadwch eich lle rhad ac am ddim heddiw:

https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau

16/08/2026

📢 Byddwch yn barod ar gyfer yr Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd

Mae sesiynau ‘Byddwch yn barod’ dwyieithog rhad ac am ddim yn dod er mwyn helpu darparwyr llety ymwelwyr i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod. Mae hyn yn cynnwys gwestai, lletai tymor byr, safleoedd gwersylloedd a mwy.

Byddwch yn cael trosolwg o'r hyn y mae'r ardoll yn ei olygu i'ch busnes chi, y camau ymarferol er mwyn bod yn barod, a chyfle i holi eich cwestiynau;n uniongyrchol i arbenigwyr Awdurdod Cyllid Cymru.

🗓️ Wyneb yn wyneb: Dydd Mercher 9 Medi, 11am i 1pm
💻 Ar-lein Dydd Iau 10 Medi, 6pm i 7pm

Archebwch eich lle rhad ac am ddim nawr
🔗 https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau

Address

Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108
Merthyr Tydfil
CF477DL

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Awdurdod Cyllid Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share