14/09/2026
YFORY - 15 o Fedi
Fel rhan o Adolygiad Deg Tref Sir Gâr, mae Cyngor Sir Gâr wedi comisiynu PER Consulting a Lafan i adolygu’r cynlluniau adfer economaidd ar gyfer deg o drefi gwledig y sir, gan gynnwys Llanybydder.
Rydym am glywed gan bobl leol am gryfderau Llanybydder, yr heriau sy’n wynebu’r dref a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Os ydych yn byw neu’n gweithio yn Llanybydder, yn rhedeg busnes, yn cynrychioli sefydliad neu grŵp cymunedol, neu’n ymweld â’r dref yn rheolaidd, hoffem glywed eich barn.
Sesiwn galw heibio yn Llanybydder:
Dewch draw i siarad â’r tîm, rhannu eich profiadau a’ch syniadau, a helpu i lywio blaenoriaethau’r dref ar gyfer y dyfodol.
📅 Dydd Mawrth (yfory), 15 Medi 2026
🕒 15:00–19:00
📍 Yr Hen Ysgol, Llanybydder, SA40 9RN
Nid oes angen archebu lle – galwch heibio ar unrhyw adeg rhwng 15:00 a 19:00.
Os na allwch ddod i’r sesiwn, gallwch hefyd rannu eich barn drwy gwblhau’r holiadur ar-lein:
Cwblhewch yr holiadur Cymraeg yma -
https://forms.cloud.microsoft/pages/responsepage.aspx?id=dlT7FgAAYUeNGmRNcDbPiXCGdiAxLulDh58qoxV72_pUNEFCQkNSMUdCSVBWMjgxR1RUOFRSV0owNy4u&route=shorturl
Dyddiad cau’r holiadur: 30 Medi 2026 am 11:59yh.
Bydd eich adborth yn helpu i lywio’r blaenoriaethau a’r camau nesaf ar gyfer Llanybydder.