Cyngor Sir Powys

Cyngor Sir Powys Croeso i dudalen Facebook swyddogol Cyngor Sir Powys. English? Mewn argyfwng ffoniwch 01597 825275.

facebook.com/powyscc
Sut rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol: cy.powys.gov.uk/cyfryngaucymdeithasol Nid yw'r cyfrif hwn yn cael ei fonitro y tu allan i oriau swyddfa, ar benwythnosau na gwyliau banc. Dim ond mewn amgylchiadau eithafol y dylech ddefnyddio'r rhif ffôn hwn. Sut rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol: https://cy.powys.gov.uk/cyfryngaucymdeithasol

Byw, gweithio, astudio neu redeg busnes ym Mhowys?Rydym am glywed eich barn ar gynlluniau ar gyfer seilwaith gwefru cerb...
14/06/2026

Byw, gweithio, astudio neu redeg busnes ym Mhowys?

Rydym am glywed eich barn ar gynlluniau ar gyfer seilwaith gwefru cerbydau trydan ledled y sir.

Rydym eisiau gwybod beth fyddai'n annog mwy o bobl i newid i gerbydau trydan, pa rwystrau sy'n bodoli, a pha seilwaith sydd ei angen ar draws Powys.

Mae'r ymgynghoriad ar agor nawr tan hanner nos, dydd Sul 12 Gorffennaf: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/strategaeth-cerbydau-trydan

14/06/2026

Today is 🩸

And we're delighted to support The Welsh Blood Service

Just one donation has the power to save 3 lives. That's all it takes!

Book a lifesaving appointment today 👉

https://wbs.wales/PowysCouncil

Cadwch blant yn ddiogel ger dŵrCadwch blant o fewn hyd braich bob amser ger dŵr— hyd yn oed os nad ydyn nhw’n nofio.Angh...
13/06/2026

Cadwch blant yn ddiogel ger dŵr
Cadwch blant o fewn hyd braich bob amser ger dŵr— hyd yn oed os nad ydyn nhw’n nofio.
Anghofiwch bethau sy’n tynnu’ch sylw. Mae goruchwyliaeth weithredol yn achub bywydau.
’nDdiogelCymru

Beth yw diwylliant i chi?🎭✨Mae Powys, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro wedi creu partneriaeth newydd i archwilio sut y g...
13/06/2026

Beth yw diwylliant i chi?🎭✨

Mae Powys, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro wedi creu partneriaeth newydd i archwilio sut y gall diwylliant ddod â chymunedau ynghyd a hyrwyddo Cymru i'r byd.

Llenwch holiadur ar-lein prosiect Cwlwm i roi gwybod beth maw diwylliant yn ei olygu i chi ➡️ https://forms.gle/2HBhWt9kwA5bHVHi9

NEWYDDION: Digwyddiad Cwm Elan i ddathlu Gofalwyr Cysylltu Bywydau 🙌Bydd gofalwyr Cysylltu Bywydau – pobl sy'n agor eu c...
12/06/2026

NEWYDDION: Digwyddiad Cwm Elan i ddathlu Gofalwyr Cysylltu Bywydau 🙌

Bydd gofalwyr Cysylltu Bywydau – pobl sy'n agor eu cartrefi eu hunain i oedolion bregus sydd angen cymorth – yn cael eu dathlu mewn digwyddiad yng Nghwm Elan yr wythnos nesaf.

Mae pawb sy'n cyflawni'r rôl hon â thâl i Gyngor Sir Powys wedi cael eu gwahodd, ynghyd â'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.

Bydd y digwyddiad ddydd Mawrth 16 Mehefin yn cynnwys sesiwn gelf wedi'i hysbrydoli gan natur, gweithgaredd bywyd gwyllt yn creu bwydwyr adar a thaith gerdded ysgafn yn y goedwig i gefnogi lles.

Yr wythnos nesaf (15 – 21 Mehefin) hefyd yw Wythnos Cysylltu Bywydau 2026, sydd eleni â'r thema 'Gweiddwch dros Gysylltu Bywydau – gofal sy'n werth siarad amdano'.

Mwy: dolen yn y sylwadau ⬇️

NEWYDDION: Gwahoddiad i'r gymuned i helpu i enwi ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt 🏫Mae preswylwyr yn c...
12/06/2026

NEWYDDION: Gwahoddiad i'r gymuned i helpu i enwi ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt 🏫

Mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i chwarae rôl allweddol wrth lunio hunaniaeth ysgol cyfrwng Cymraeg pob oed newydd yng nghanol Powys, drwy awgrymu enw.

Bydd Cyngor Sir Powys yn agor yr ysgol newydd yn Llanfair-ym-Muallt, ym mis Medi 2027, gan ddod ag addysg cyfrwng Cymraeg cynradd ac uwchradd at ei gilydd.

Mae'r paratoadau ar y gweill, gyda'r corff llywodraethu dros dro yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yr wythnos diwethaf. Fel rhan o'i rôl, mae bellach am gael awgrymiadau gan y gymuned leol i helpu i benderfynu ar enw ar gyfer yr ysgol newydd.

Mae'r cyngor yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn ei llwyddiant yn y dyfodol i gyflwyno syniadau sy'n adlewyrchu'r ardal a natur bob oed yr ysgol. Dylai enwau a awgrymir fod yn unigryw, ac yn gynrychioliadol o'r ardal ddaearyddol eang a wasanaethir gan yr ysgol.

Dylai awgrymiadau hefyd gynnwys esboniad byr o'r rhesymeg y tu ôl i'r enw arfaethedig. Gellir gwneud cyflwyniadau ar-lein neu drwy e-bost, gyda dyddiad cau o hanner dydd (12pm) ddydd Iau 19 Mehefin.

Mwy: dolen yn y sylwadau ⬇️

NEWYDDION: Cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer 38 o gartrefi cyngor newydd yn yr YstogMae cynlluniau i adeiladu 38 o ga...
12/06/2026

NEWYDDION: Cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer 38 o gartrefi cyngor newydd yn yr Ystog
Mae cynlluniau i adeiladu 38 o gartrefi cyngor newydd yn yr Ystog wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Powys.
Bydd y cartrefi'n cael eu hadeiladu ar dir ger Fir House yn yr Ystog, ger Trefaldwyn.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy y Cyngor ddydd Iau 11 Mehefin.
Mwy: dolen yn y sylwadau ⬇️

NEWYDDION: Bargen Twf yn cefnogi cysylltiadau ffeibr llawn ar gyfer parciau busnes Canolbarth Cymru 🖱️Mae Tyfu Canolbart...
12/06/2026

NEWYDDION: Bargen Twf yn cefnogi cysylltiadau ffeibr llawn ar gyfer parciau busnes Canolbarth Cymru 🖱️

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi cyhoeddi heddiw fod BT wedi'i benodi i gyflawni Prosiect Ffeibr Llawn i'r Safle (FTTP) Parciau Busnes — cam mawr ymlaen wrth ddarparu band eang gigabit i barciau busnes ledled Ceredigion a Phowys.

Bydd y prosiect yn darparu band eang ffeibr llawn gyflym, dibynadwy ac wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol i barciau busnes heb fynediad at gysylltedd gallu gigabit ar hyn o bryd. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu busnesau lleol i dyfu, cynyddu cynhyrchiant a pharhau'n gystadleuol mewn economi gynyddol ddigidol.

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Ddigidol Tyfu Canolbarth Cymru a Bargen Twf Canolbarth Cymru ehangach, sef buddsoddiad o £110m gan Lywodraethau'r DU a Chymru, i gefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth.

Yn hollbwysig, mae'r prosiect yn canolbwyntio ar eiddo mewn parciau busnes nad ydynt wedi'u cynnwys mewn cyflwyniadau band eang masnachol presennol nac mewn rhaglenni eraill a ariennir yn gyhoeddus. Mae hyn yn sicrhau bod y buddsoddiad yn darparu gwerth ychwanegol clir drwy ganolbwyntio ar safleoedd a fyddai fel arall yn colli allan ar fand eang o ansawdd uchel.

Bydd cysylltedd ffibr llawn yn cael ei ddarparu i safleoedd cyflogaeth allweddol ledled Ceredigion a Phowys.

Y tu hwnt i'r parciau busnes a nodwyd, bydd adeiladu'r rhwydwaith hefyd yn galluogi cartrefi a busnesau cyfagos ychwanegol i uwchraddio i ffeibr llawn wrth i'r rhwydwaith ymestyn drwy'r ardal. Bydd hyn yn ehangu mynediad at fand eang gigabit ymhellach ac yn gwneud y mwyaf o fuddion ehangach y buddsoddiad ar draws y rhanbarth.

Mwy: dolen yn y sylwadau ⬇️

🚏Mae'r lloches bws ger Coleg y Drenewydd bellach wedi'i atgyweirio yn dilyn fandaliaeth dro ar ôl tro yn ddiweddar.Er mw...
12/06/2026

🚏Mae'r lloches bws ger Coleg y Drenewydd bellach wedi'i atgyweirio yn dilyn fandaliaeth dro ar ôl tro yn ddiweddar.

Er mwyn lleihau'r risg o ddifrod a chostau pellach, defnyddiwyd deunyddiau mwy gwydn yn lle paneli gwydr.

Mae fandaliaeth yn effeithio ar y gymuned gyfan, nid dim ond teithwyr bws – helpwch ni i ofalu am ein mannau cymunedol a rhowch wybod am unrhyw ddifrod neu ymddygiad gwrthgymdeithasol i'r heddlu.

Diolch am eich cefnogaeth.

NEWYDDION: Estyn yn cydnabod cynnydd cryf yn Ysgol Bro HyddgenMae Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi cael ei chanmol ...
12/06/2026

NEWYDDION: Estyn yn cydnabod cynnydd cryf yn Ysgol Bro Hyddgen

Mae Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi cael ei chanmol gan Gyngor Sir Powys ar ôl i ymweliad monitro gan Estyn gadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd cryf a bydd yn cael ei thynnu o'r categori ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd yn erbyn argymhellion ei harolygiad blaenorol, gan nodi carreg filltir bwysig yn ei thaith wella ac adlewyrchu ymrwymiad arweinwyr, staff a llywodraethwyr i sicrhau canlyniadau gwell i ddysgwyr.

Mwy: Dolen yn y sylwadau ⬇️

Address

Llandrindod Wells

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Sir Powys posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cyngor Sir Powys:

Share