24/07/2026
Diweddariad 4pm 🚒
Mae'r gwaith diffodd tân yn y Rhinogydd wedi parhau ar gyflymder heddiw, gyda chymorth o'r awyr yn cyrraedd i gynorthwyo'r timau sy'n mynd i'r afael â'r tân gwyllt ar dir anodd ac anghysbell.
Mae'r hofrennydd wedi helpu'r timau i gyrraedd ardaloedd anodd eu cyrraedd lle mae'r tân yn llosgi, gan gefnogi ymdrechion i reoli y tân ac atal iddo ledaenu ymhellach.
Er nad oes ffront tân bellach, mae nifer o fannau poeth yn parhau a bydd diffoddwyr tân yn parhau i weithio dros y dyddiau nesaf i'w roi dan reolaeth. Disgwylir i'r hofrennydd ddychwelyd yfory i gefnogi'r gwaith diffodd tân o'r awyr.
Dywedodd Jami Jennings, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau a Chadeirydd y Grŵp Cydlynu Tactegol:
"Mae ein timau wedi gweithio'n ddiflino dros y dyddiau diwethaf mewn amodau heriol, ac mae'r ymateb cyfunol o'r awyr ac ar y ddaear heddiw wedi helpu i gryfhau ein hymdrechion i reoli y tân. Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n newid yn barhaus, a bydd y gwaith yn parhau dros y penwythnos i fonitro'r amodau.
"Hoffwn ddiolch i bawb sy'n rhan o'r ymateb i’r digwyddiad, yn ogystal â'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau hyn, am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus.
"Gallwch barhau i'n cefnogi yn yr wythnosau nesaf yn ystod yr amodau sych hyn drwy osgoi mynd i’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt a bod yn ofalus iawn yng nghefn gwlad. Peidiwch defnyddio barbeciws tafladwy, diffoddwch sigaréts yn llwyr, ewch â sbwriel adref gyda chi a pheidiwch byth â gadael poteli gwydr ar ôl. Dim ond gwreichionen fach sydd ei hangen i gychwyn tân yn yr amodau sych hyn. Os gwelwch dân, ewch i le diogel a ffoniwch 999 ar unwaith."
Rydym hefyd yn parhau i fonitro nifer o ddigwyddiadau tân gwyllt ledled Gogledd Cymru, gyda ymweliadau ail-arolygu rheolaidd yn digwydd yn y lleoliadau canlynol:
• Mynydd Bangor
• Pentre Helygain
• Pentrefelin, Caergybi
• Mynydd Yr Hôb, Sir y Fflint
• Mount Pleasant, Brymbo
• Bwlch Sychnant, Conwy
Wrth edrych ymlaen at y penwythnos, er bod glaw wedi'i ragweld a fydd yn gymorth mawr i'r ymdrechion diffodd tân, mae'r rhagolygon yn awgrymu nad yw'n debygol y bydd y swm yn ddigonol i ddiffodd y tanau hyn yn llwyr. Felly, bydd angen parhau i fonitro'r amodau'n agos.
Gall newidiadau yn y gwynt achosi i fwg effeithio ar gymunedau gwahanol dros y penwythnos, yn enwedig i'r dwyrain o'r tanau gwyllt mwyaf ac yn ystod yr hwyr a thrwy'r nos.
Os ydi y mwg yn effeithio arnoch, arhoswch dan do lle bo modd a chadwch ffenestri a drysau ar gau. Unwaith y bydd y mwg wedi gwasgaru, agorwch ffenestri a drysau eto i awyru eich cartref. Dilynwch gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth.