05/06/2026
Mae amser o hyd i holi - gweler y manylion isod.
~~~
Rydym yn gweithio gyda phrosiect Grounds for Appeal i greu cronfa ddata o gofnodion tribiwnlys milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrydain Fawr. Rydym yn chwilio am chwe gwirfoddolwr a fydd yn gweithio gyda'i gilydd yn Archifau Gwent i drawsgrifio’r cofnodion tribiwnlys milwrol sydd yn ein casgliadau.
Os ydych chi;
· ar gael ar fore dydd Iau
· yn hyfedr wrth ddefnyddio cyfrifiadur
· yn gallu darllen ysgrifen redeg
Beth am ymuno â ni yn ein bore agoriadol ddydd Iau 25 Mehefin 10-12 i ddarganfod mwy am y prosiect, yr hyn y bydd y trawsgrifiad yn ei gynnwys, a gweld rhai enghreifftiau sydd yn ein casgliadau? Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost i [email protected] i gadw lle, a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion o ran diet neu fynediad.