Heddlu Gwent

Heddlu Gwent Amddiffyn a Thawelu Meddwl. Ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, anfonwch neges uniongyrchol neu ffoniwch 101.

Rydym wir yn gwerthfawrogi eich negeseuon uniongyrchol atom. Er hynny, mae ein canolfan gyswllt sy'n delio â galwadau 999 a 101 am help, yn cael cyfnodau prysur dros ben pan nad yw'n bosibl i ni ymateb yn gyflym i negeseuon uniongyrchol. Os nad ydych wedi derbyn ymateb i'ch neges uniongyrchol, ac yn pryderu am fater, ystyriwch ein ffonio yn lle hynny. Cofiwch ffonio 999 mewn argyfwng, 101 am unrhyw alwadau eraill. Mae galwadau i 101 yn costio 15c ni waeth beth fo hyd yr alwad.

Pobl go iawn, argraff go iawn 🤝Mae ein cymunedau angen rhywun a fydd yn fodlon gweithredu pan fyddan nhw mewn angen.Dim ...
05/09/2026

Pobl go iawn, argraff go iawn 🤝

Mae ein cymunedau angen rhywun a fydd yn fodlon gweithredu pan fyddan nhw mewn angen.
Dim pobl berffaith. Dim pobl ddi-ofn. Dim ond pobl go iawn sy’n malio.

Fel Cwnstabl Heddlu, bydd pobl yn troi atoch chi ar eu diwrnod gwaethaf, a chi fydd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel eto 💙

Mae eich profiad yn bwysicach na’ch gwybodaeth. Gallwn ni ddysgu’r sgiliau i chi, ond gennych chi mae’r angerdd.

Os ydych chi’n barod i wneud argraff go iawn, gallai hyn fod yn ddechrau rhywbeth mawr 👮‍♀️👮‍♂️

🚨 Ymgeisiwch yn awr – dolen yn y bio.

‼️ Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Benjamin Davies, 30 oed o Gwmbrân, sydd wedi torri amodau ei drwydded a...
04/09/2026

‼️ Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Benjamin Davies, 30 oed o Gwmbrân, sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar 29 Mai 2025.

ℹ️ Cafodd Davies ei ddedfrydu i garchar am fygythiadau i ladd ym mis Mai 2024.

Oherwydd bod Davies, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded mae wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar.

📱 Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch 101 gan grybwyll 2600257326 neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.

Ydych chi’n berson caredig sy’n chwilio am yrfa newydd, werth chweil❓Rydyn ni’n chwilio am bobl i   yn ein Canolfan Gysw...
03/09/2026

Ydych chi’n berson caredig sy’n chwilio am yrfa newydd, werth chweil❓

Rydyn ni’n chwilio am bobl i yn ein Canolfan Gyswllt a Rheoli’r Heddlu.

Mae pethau’n symud yn gyflym iawn yn y Ganolfan a byddwch yn gweithio mewn tîm i:
✅ ymdrin â phobl sy’n cysylltu ar y ffôn ac yn ddigidol
✅ gwerthuso pa mor daer yw digwyddiadau a throseddau
✅ anfon swyddogion rheng flaen i ymateb i alwadau
✅ a llawer mwy!

Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i bobl pan fyddan nhw ein hangen ni fwyaf.

Oes gennych chi ddiddordeb❓

Ymgeisiwch heddiw trwy gyfrwng y ddolen yn y sylwadau 🤩🔗

❗ NEWYDDION ❗ 6️⃣ Rydyn ni wedi cyhuddo chwech o bobl mewn cysylltiad ag Ymgyrch Arizona, ymchwiliad i gynllwynio a chyf...
03/09/2026

❗ NEWYDDION ❗

6️⃣ Rydyn ni wedi cyhuddo chwech o bobl mewn cysylltiad ag Ymgyrch Arizona, ymchwiliad i gynllwynio a chyflenwi cyffuriau dosbarth A, yn dilyn cyfres o warantau yng Nghaerffili a Thorfaen.

Cyhuddwyd Lisa Fields, 39 oed o Newchurch Court, Cwmbrân; Louis Hall, 27 oed o Heol y Gogledd, Trecelyn; Jordan Jayne 29 oed o Drayton Court, Cwmbrân a Katie Ward, 38 oed o Fields View Road, Cwmbrân, o ddau achos o gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth A.

Cyhuddwyd Kate Jones, 26 oed o Jerusalem Court, Pont-y-pŵl o’r troseddau hyn hefyd yn ogystal â chyhuddiad ychwanegol o ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth C.

Cafodd chweched person, Alan Nimmo, 28 oed, gynt o Burghley Drive, Corby, ei gyhuddo trwy’r post mewn cysylltiad â’r ymchwiliad hwn o ddau gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig o ddosbarth A.

Cafodd pob un ohonynt eu remandio i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau 3 Medi.

02/09/2026

🚔 Roedd swyddogion allan cyn y wawr y bore yma yn gweithredu gwarantau yng Nghwmbrân, Trecelyn a Phont-y-pŵl, lle gwnaethant atafaelu ffonau, cyffuriau, a***n, arfau a char.

9️⃣ Arestiwyd naw o bobl rhwng 17 a 39 oed, yn rhan o’r ymgyrch ac maen nhw yn y ddalfa wrth i’n hymchwiliad barhau.

⬇️ Gwyliwch y fideo i weld y gwarantau’n cael eu gweithredu. ⬇️

‼️ Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Lewys Lintern, 22 oed o ardal Caerffili, sydd wedi torri amodau ei drwy...
02/09/2026

‼️ Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Lewys Lintern, 22 oed o ardal Caerffili, sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

📍Mae gan Lintern gysylltiadau ag ardal Caerdydd hefyd.

Roedd Lintern yn treulio dedfryd o garchar am: Fod ag eitem a nodir yn adran 40D(3B) yn ei feddiant mewn carchar heb awdurdod. ℹ️

Oherwydd bod Lintern, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded mae wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar.

📱 Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch 101 gan grybwyll 2600277722 neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ardal wedi cael ei chlirio yn awr ‼❌ Ceisiwch osgoi’r ardal ❌Mae gwasanaethau brys yn ymdrin ag ar...
01/09/2026

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ardal wedi cael ei chlirio yn awr ‼

❌ Ceisiwch osgoi’r ardal ❌

Mae gwasanaethau brys yn ymdrin ag argyfwng meddygol ar hyn o bryd ar A469 Southend Terrace - Tirphil train station to Dan-y-Graig.

Mae Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar y safle.

🚧 Efallai y bydd tagfeydd yn yr ardal. Defnyddiwch lwybr arall ar gyfer eich siwrnai.

Diolch.

Ydych chi’n chwilio am yrfa lle gallwch chi wneud gwahaniaeth?🧐Beth am swydd lle mae pob diwrnod yn dod a heriau newydd,...
01/09/2026

Ydych chi’n chwilio am yrfa lle gallwch chi wneud gwahaniaeth?🧐

Beth am swydd lle mae pob diwrnod yn dod a heriau newydd, lle gallwch wneud argraff go iawn, a lle rydych yn rhan o dîm cefnogol?

Rydyn ni’n recriwtio swyddogion heddlu👮‍♂️👮‍♀️

Dim arch-arwyr. Dim pobl sy’n gallu darllen meddyliau. Dim ond pobl go iawn sydd eisiau cadw ein cymunedau’n ddiogel – ac sy’n fodlon gweithredu.

Fel Cwnstabl Heddlu:
🔹 bydd pwrpas i’ch swydd chi
🔹 byddwch chi’n cael hyfforddiant sy’n magu hyder
🔹 byddwch chi’n rhan o dîm sy’n teimlo fel teulu
🔹 byddwch chi’n cael cyfleoedd di-baid i dyfu a datblygu.

Os ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth, herio eich hun, a bod yn rhan o rywbeth mwy, dyma eich cyfle chi 🤩

🚨 Ymgeisiwch heddiw trwy gyfrwng y ddolen yn y sylwadau. Mae ar eich cymuned eich angen chi.

🚨 Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Dwayne Zungunde, 23 oed o Bont-y-pŵl, sydd wedi torri amodau ei drwydded...
01/09/2026

🚨 Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Dwayne Zungunde, 23 oed o Bont-y-pŵl, sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

ℹ️ Roedd Zungunde yn y carchar am yrru diofal.

Oherwydd bod Zungunde, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded mae wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar.

📱 Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch 101 gan grybwyll 2600156217 neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.

Ydych chi’n ystyried gyrfa mewn plismona? 👀Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rolau rheng flaen neu rolau cefnogi, rydyn...
01/09/2026

Ydych chi’n ystyried gyrfa mewn plismona? 👀

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rolau rheng flaen neu rolau cefnogi, rydyn ni’n cynnal digwyddiad lle gallwch chi:
✅ ddysgu mwy gan swyddogion a staff am sut y daethant i’r maes plismona
✅ gael cipolwg gwerthfawr ar y broses recriwtio a hyfforddi
✅ cael atebion i’ch cwestiynau am ddatblygiad gyrfa, y cymwysterau/sgiliau gofynnol, a’r broses ymgeisio
✅ a llawer mwy!

Swnio’n dda?

📅 Dydd Sadwrn 12 Medi
🕙 10am - 1pm
📍 Pencadlys Heddlu Gwent, Llantarnam, NP44 3FW.

Dewch i gwrdd â swyddogion a staff, dysgu am y gwahanol rolau mewn plismona, a dysgu beth sydd ei angen arnoch chi i .

Dewch draw a chymerwch y cam cyntaf tuag at wneud gwahaniaeth! Cofrestrwch trwy gyfrwng y ddolen yn y sylwadau 🤩

Address

Parc Ffordd Llantarnam
Cwmbran
NP443FW

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Heddlu Gwent posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Heddlu Gwent:

Shortcuts

Share