01/11/2024
Bwlch y Ddwy Elor ⚰️
🍂 Gyda chwymp y dail, mae’r Hydref yn cynnig cyswllt uniongyrchol â marwolaeth a’r cwsg sydd ar ddod ym myd natur. Mae 01 Tachwedd yn nodi’r diwrnod cyntaf o aeaf, tra bod Noson , 31 Hydref, yn cael ei ystyried yn “ysbrydnos” a'r pwynt canolog pan fydd pwerau'r tywyllwch a'r gaeaf yn dychwelyd gydag ysbrydion y meirw. Dyma’r amser i anrhydeddu ein hynafiaid, ac i edrych ar enw y bwlch sydd i’w ganfod ar yr hen lwybr rhwng Cwm Pennant a Chwm Colyn tuag at Rhyd Ddu a , sef Bwlch y Ddwy Elor.
⚰️ Mae’r enw’n deillio o’r hen arfer o gludo‘r meirw o un plwyf i’r llall dros y mynydd, cyfnewid yr elorau ar grib y copa, ac yna cario'r ymadawedig i lawr i'w gladdu, tra'n mynd â'r elor wag yn ôl nes bod ei hangen eto. Mae'r bwlch yn y col ei hun yn 427 metr uwch lefel y môr, felly mae'n rhaid bod y daith o gario ymadawedig, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, yn un anodd a thrist tu hwnt. Mae’r cysylltiad rhwng Rhyd Ddu a Phennant yn ymddangos yn arwyddocaol ac mae’n debyg bod cyswllt â phlwyf Beddgelert yn ogystal gan bod llwybr yn disgyn yno hefyd o’r col.
Ond pam oedd y meirw’n cael eu cludo o un plwyf i’r llall? Os allwch chi roi goleuni pam y byddai ymgymeriad o’r fath yn digwydd, plîs rhannwch yn y sylwadau isod.
⛏️ Datblygwyd Chwarel Bwlch y Ddwy Elor ar y llethrau gerllaw yn y cyfnod rhwng tua 1850 a 1870, sef “Oes Aur” y diwydiant llechi yng Ngwynedd. Buddsoddwyd llawer iawn o bres a newidiwyd enw’r chwarel i ‘Prince of Wales’ gan ei fod yn enw crand a ffasiynol ar y pryd. Datblygwyd yno 7 poncen, gyda’r bwriad posib o weithio dan ddaear. ‘Roedd inclên yn cysylltu’r ponceniau, ac ar ei waelod ‘roedd melin a gynlluniwyd gan John Francis, rheolwr Chwarel y Penrhyn, i dorri’r llechi. Uwchben y chwarel ‘roedd barics i’r gweithwyr, ac ar ei anterth ‘roedd 200 o ddynion yn gweithio yno’n cynhyrchu oddeutu 5000 tunnell o lechi yn flynyddol. Gallwn ond dyfalu bod y bwlch a’i enw’n brysurach yr adeg honno. Ond, methu fu hanes y chwarel oherwydd ansawdd gwael y graig, ac wedi iddi gau gadawodd y gweithwyr, caewyd y rheilffyrdd, a daeth llonyddwch yn ôl i’r cwm.