Aberconwy House NT / YG Tŷ Aberconwy

Aberconwy House NT / YG Tŷ Aberconwy Tŷ masnachol yng nghanol Conwy. Merchant house in Conwy cared for by National Trust Cymru.

Arddangosfa Cymdeithasau Hanes Lleol Conwy i fyny’r grisiau | Local History Societies of Conwy****Ymunwch â ni i fyny’r ...
20/03/2026

Arddangosfa Cymdeithasau Hanes Lleol Conwy i fyny’r grisiau | Local History Societies of Conwy

****

Ymunwch â ni i fyny’r grisiau ar ddydd Iau 26 Mawrth i weld arddangosfa sy’n rhannu ymchwil cymdeithasau hanes Aberconwy, Bae Colwyn, Deganwy, Llandudno a Phenmaenmawr o’r flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â’u prosiectau a’u rhaglenni digwyddiadau ar gyfer 2026.

Eu thema eleni yw “Atgofion Lleol”, ac maent yn galw ar bobl y i rannu eu hatgofion gyda’r aelodau (fel Selwyn a Rob yn y llun) neu yn y ‘llyfr atgofion’.

Dewch draw i ddweud helo, cynlluniwch eich ymweliad ar ein gwefan: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/aberconwy-house

****

Join us upstairs on Thursday March 26 to see an exhibition sharing the research of Aberconwy, Colwyn Bay, Deganwy, Llandudno and Penmaenmawr history societies from this past year and what their projects and event programmes are for 2026.

Their theme has been "Local Memories” and they would love people to drop in to share their memories with society members (like Selwyn and Rob pictured) or in the ‘memories book’.

Come over and say hello, plan your visit on our website: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/aberconwy-house

Dewch i ddechrau dathlu |  Let the celebrations begin 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿****Mae'r baneri wedi’u gosod, y cennin Pedr wedi ymddangos...
27/02/2026

Dewch i ddechrau dathlu | Let the celebrations begin 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

****

Mae'r baneri wedi’u gosod, y cennin Pedr wedi ymddangos, ac rydym eisoes wedi mwynhau ymweliad arbennig gan Dewi Sant ei hun yn y Sesiwn Siarad ddoe.

Rydym yn edrych ymlaen at agor ein drysau unwaith eto y penwythnos hwn wrth inni barhau â’n dathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Ochr yn ochr â digwyddiadau wedi’u rhaglennu – gan gynnwys perfformiadau byw ar y delyn a sesiynau adrodd straeon hudolus - bydd digonedd o adloniant ar gael ichi.

Byddwch yn greadigol gyda chrefftau tymhorol, ymlaciwch gyda diod boeth a chacennau cri, ac archwiliwch yr arddangosfeydd newydd yn y ffenestri yn ein siop llyfrau ail law, sy’n arddangos llyfrau am deithio, hanes a diwylliant Cymru. Fe ddowch o hyd i lyfrau o ddiddordeb lleol ac ystod o lyfrau ffuglen a ffeithiol hefyd, i bori drwyddynt a’u mwynhau.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich croesawu! Trefnwch eich ymweliad ar ein gwefan: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/aberconwy-house/events/cb121c56-ccdb-456e-bbd1-aecc20c23bf5

****

The bunting is up, the daffodils are out, and we’ve already enjoyed a special visit from St David himself at this afternoon’s Sesiwn Siarad (Welsh conversation group).

We’re looking forward to opening our doors again this weekend as we continue our St David’s Day celebrations. Alongside programmed events – including live harp performances and magical storytelling sessions – there’ll be plenty more to keep you entertained.

Get creative with seasonal crafts, relax with a hot drink and Welsh cakes, and explore the new window displays in our second-hand bookshop showcasing titles on Welsh history, culture and travel. You’ll also discover local interest books and a range of Welsh-language fiction and non-fiction to browse and enjoy.

We can’t wait to welcome you! Head to our website to plan your visit: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/aberconwy-house/events/cb121c56-ccdb-456e-bbd1-aecc20c23bf5

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda ni | Celebrate St David's Day with us****Ymunwch â ni, mewn partneriaeth â Menter Iaith Co...
26/02/2026

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda ni | Celebrate St David's Day with us

****

Ymunwch â ni, mewn partneriaeth â Menter Iaith Conwy, am benwythnos o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi Sant a mwynhau cerddoriaeth fyw, adrodd straeon hudolus a chrefftau creadigol.

Dewch ynghyd i fwynhau cerddoriaeth delyn draddodiadol a sesiynau adrodd straeon i’r teulu oll (y ddau ar y dydd Sadwrn yn unig), bod yn greadigol gyda chrefftau cennin Pedr papur, rhannu diodydd poeth a chacennau cri, ac anfon cerdyn post arbennig i roi gwên ar wyneb rhywun.

Mynediad am ddim. Ariennir y gweithgareddau gan Lywodraeth Cymru. Cewch ganfod mwy a chynllunio eich ymweliad yma: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/aberconwy-house/events/cb121c56-ccdb-456e-bbd1-aecc20c23bf5

****

Join us, in partnership with Menter Iaith Conwy, for a weekend of St David’s Day celebrations and enjoy live music, magical storytelling and creative crafts.

Gather for traditional harp music and family-friendly story sessions (both Saturday only), get creative with paper daffodil craft, share free hot drinks and Welsh cakes, and send a special postcard to brighten someone’s day.

Free entry. Activities funded by Welsh Government. Find out more and plan your visit here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/aberconwy-house/events/cb121c56-ccdb-456e-bbd1-aecc20c23bf5

Gweithdy synhwyraidd i blant oed cyn-ysgol | Pre-schoolers workshop****Ymunwch â ni mewn partneriaeth â Menter Iaith Con...
24/02/2026

Gweithdy synhwyraidd i blant oed cyn-ysgol | Pre-schoolers workshop

****

Ymunwch â ni mewn partneriaeth â Menter Iaith Conwy am weithdy synhwyraidd a rhyngweithiol dwyieithog fydd yn helpu eich plant ifanc i gysylltu â’r byd naturiol.

Wedi’i ysbrydoli gan y llyfr Olwyn y Flwyddyn (Wheel of the Year), bydd Nai Dooley a Nia Jewell yn eich arwain chi a’ch plant meithrin drwy brofiad chwareus sy’n tanio chwilfrydedd, annog creadigrwydd a dod â’r gwahanol dymhorau’n fyw.

Argymhellir archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y gweithdy di-dâl hwn. Mae diodydd poeth a chacenni cri yn gynwysedig.

Am fwy o wybodaeth ac am fanylion sut mae archebu lle, ewch i’n gwefan:

****

Join us in partnership with Menter Iaith Conwy for a bilingual sensory and interactive workshop that will help your little ones connect with the natural world.

Inspired by the book Olwyn Y Flwyddyn (Wheel of the Year), Nia Dooley and Nia Jewell will guide you and your pre-schoolers through a playful and engaging experience that sparks curiosity, encourages creativity, and brings the changing seasons to life.

Booking is recommended for this free workshop. Complimentary hot drinks and Welsh cakes included.

For more information and booking details, head to our website: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/aberconwy-house/events/6618c784-bd37-4988-8bd9-0159f3255f53

Ydych chi wedi bod draw i’r Ystafell Fyw Cyhoeddus? | Have you been to our Public Living Room?****Mae’r Ystafelloedd Fyw...
20/01/2026

Ydych chi wedi bod draw i’r Ystafell Fyw Cyhoeddus? | Have you been to our Public Living Room?

****

Mae’r Ystafelloedd Fyw Cyhoeddus yn leoedd croesawgar, di-agenda lle gall pobl eistedd i lawr gyda phaned, cael sgwrs, a theimlo’n fwy dynol. Mae rhwydwaith rhyngwladol ohonynt, a sefydlwyd gan y mudiad cymdeithasol Camerados. Rydyn ni wedi bod yn rhan o’r rhwydwaith ers Mawrth 2024.

Mae ein Ystafell Fyw Cyhoeddus ni ar y llawr uchaf, o dan y trawstiau derw canoloesol a’r goleuadau’n pefrio, gyda diodydd poeth hunan-wasanaeth, gemau a llyfrau wrth law. Lle gwell i dreulio amser yn ystod y gaeaf?

Mae ar agor bob dydd Iau, ac o 12.30–1.30yp mae Menter Iaith Conwy yn cynnal Sesiwn Siarad galw-heibio lle gall pobl ymarfer eu Cymraeg llafar.

Byddwn yn cynnal ein Ystafell Fyw Cyhoeddus cyntaf yn 2026 yfory, dydd Iau 22 Ionawr, pan fyddwn yn ailagor y siop lyfrau, ac yna pob Dydd Iau o hynny ymlaen.

****

Public Living Rooms are welcoming, no-agenda places for people to sit down with a cuppa, have a chat, and feel more human. There’s an international network of them, founded by the social movement Camerados. We’ve been part of the network since March 2024.

Our Public Living Room is upstairs, under the Medieval oak beams and twinkling fairy lights, with help-yourself hot drinks, games and books to hand. Where better to cosy up and spend some time with your community over winter?

It’s open every Thursday and from 12.30-1.30pm Menter Iaith Conwy hosts a drop-in Sesiwn Siarad where folks can practise their conversational Welsh.

Our first Public Living Room of 2026 will be tomorrow, Thursday 22 January, when we reopen the bookshop.

Llyfrau i’w rhoi? | Books to donate?****Ydych chi’n gwneud rhywfaint o waith clirio i ddechrau’r flwyddyn? Rydyn ni’n ha...
16/01/2026

Llyfrau i’w rhoi? | Books to donate?

****

Ydych chi’n gwneud rhywfaint o waith clirio i ddechrau’r flwyddyn? Rydyn ni’n hapus iawn i dderbyn unrhyw lyfrau Nadolig a jig-so rydych chi’n dymuno eu rhoi (ynghyd ag unrhyw roddion llyfrau o ansawdd da!) ac fe’u cadwn nhw’n ddiogel tan fis Rhagfyr nesaf.

Byddwn ni’n nôl ac yn barod i gymryd rhoddion o Ddydd Iau 22 Ionawr.

****

Are you having a New Year sort out? We are very happy to take any Christmas books and jigsaws you’re looking to pass on (along with all good quality book donations!) and we’ll squirrel them away till next December.

We will be back open and ready to take donations from Thursday 22 January.

Amser gwych yma dros y penwythnos! | A wonderful time here over the weekend!
15/01/2026

Amser gwych yma dros y penwythnos! | A wonderful time here over the weekend!

Rydym ni ar agor Dydd Sadwrn 10 Ionawr a Dydd Sul 11 Ionawr! | We are open Saturday 10 and Sunday 11 January! ****Mae cr...
09/01/2026

Rydym ni ar agor Dydd Sadwrn 10 Ionawr a Dydd Sul 11 Ionawr! | We are open Saturday 10 and Sunday 11 January!

****

Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd eisiau chwilio drwy’r llyfrau, prynnu, rhoi neu darllen yn y siop lyfrau.

I fyny’r grisiau, ymunwch â Menter Iaith Conwy am weithdai creu llysernnau fel rhan o’r gwaith paratoi am yr orymdaith Mari Lwyd nos Sul.

****

A warm welcome awaits anyone who wants to browse, buy, donate or read in the bookshop.

Upstairs, Menter Iaith Conwy will be hosting lantern making workshops in preparation for a Mari Lwyd parade on Sunday evening.

Pwy wnaeth groesawu’r Flwyddyn Newydd gyda diod boeth a llyfr da? | Hands up who saw in the new year with a hot drink an...
02/01/2026

Pwy wnaeth groesawu’r Flwyddyn Newydd gyda diod boeth a llyfr da? | Hands up who saw in the new year with a hot drink and a good book?

****

Dim ond nodyn atgoffa ein bod yn cymryd saib ar hyn o bryd, gan agor ar dros un penwythnos Dydd Sadwrn 10 a Dydd Sul 11 Ionawr, ac yna’n ailagor gyda’n patrwm arferol o Ddydd Iau i Ddydd Sadwrn o 22 Ionawr ymlaen.

Fodd bynnag, os ydych eisoes yn chwilio am eich darlleniad nesaf, a oeddech chi’n gwybod bod gan Castell Penrhyn siop lyfrau ail-law?

Gwiriwch eu horiau agor ar wefan y National Trust.

****

A little reminder that we are currently taking a break, opening for a standalone weekend Sat 10 & Sun 11 January, then reopening with our usual Thursday to Saturday pattern from 22 January.

However, if you are already on the hunt for your next read, did you know that Penrhyn Castle has a second-hand bookshop?

Check their opening hours on the National Trust website.

Diolch a Nadolig Llawen! | Thank you and Merry Christmas!****A dyna ni am eleni! Diolch i bawb am amser bendigedig yn Tŷ...
21/12/2025

Diolch a Nadolig Llawen! | Thank you and Merry Christmas!

****

A dyna ni am eleni! Diolch i bawb am amser bendigedig yn Tŷ Aberconwy cyn y Nadolig… I Helen Wyn Pari am ddechrau’r dathliadau yn ein diddanu ni gyda cerddoriaeth hyfryd y delyn ar ein Diwrnod Agored, i Menter Iaith Conwy ac yr Association of Polish Journalists and Writers in Wales am gynnal digwyddiadau hyfryd i’r cyhoedd i fyny’r grisiau, i ein gwirfoddolwyr gwych ac i bawb fu draw i gael golwg ar y llyfrau, i brynnu neu i roi, i greu nod tudalen tymhorol neu i ymuno â ni am mins pei a paned yn ein Ystafell Fyw Cyhoeddus!

Rydym ni nawr yn cael toriad (i ni gael darllen ein hunain!) a byddwn yn ail-agor ar Ddydd Sadwrn, 10 Ionawr, 10-4.

****

And that’s a wrap for this year! Thank you to everyone for a wonderful run up to Christmas… To Helen Wyn Pari for kicking off the festive season in such style and serenading us with beautiful music on the harp on our Open Day, to Menter Iaith Conwy and the Association of Polish Journalists and Writers in Wales for holding lovely Christmas events for the public upstairs, to our fabulous volunteers and to everyone who came and browsed, bought or donated books, made a festive bookmark or joined us with a cuppa and mince pie in the Public Living Room.

We are now taking a break (to do some reading ourselves!) and will next be open Saturday 10 January, 10-4.

Address

Castle Street
Conwy
LL328AY

Opening Hours

Thursday 10am - 4pm
Friday 10am - 4pm
Saturday 10am - 4pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Aberconwy House NT / YG Tŷ Aberconwy posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Aberconwy House NT / YG Tŷ Aberconwy:

Share