Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Diogelwch Bwyd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Diogelwch Bwyd Wedi'i leoli yng Nghoed Pella ym Mae Colwyn mae'r Tîm Diogelwch Bwyd yn helpu busnesau i gydymffurfio

Disgrifiad
Mae Swyddogion Diogelwch Bwyd yn helpu i sicrhau bod yr holl fwyd a gynhyrchir ac a werthir yn Ardal Cyngor Conwy yn ddiogel i'w fwyta. Caiff deddfwriaeth diogelwch bwyd ei gorfodi mewn ystod eang o fusnesau, siopau bach a siopau bwyd cyflym i archfarchnadoedd mawr, gwestai a gweithgynhyrchwyr lleol. Caiff hyn ei gyflawni drwy:
Arolygiadau ac ymyriadau
Addysg a darparu cyngor i fusnesa

u a chwsmeriaid
Ymchwilio i gwynion am fwyd a safleoedd bwyd
Ymchwilio i achosion ac achosion a amheuir o wenwyn bwyd
Rhaglen Samplu
Cyngor Iechyd a Diogelwch

18/07/2025

Oeddech chi’n gwybod y gall rhai diodydd iâ slwsh neu ‘slushies’ fod yn beryglus i blant ifanc?

Gall diodydd iâ slwsh gynnwys glyserol, sef cynhwysyn a ddefnyddir yn lle siwgr. Os yw plant ifanc yn yfed llawer iawn o glyserol, gall achosi cyfog a chur pen, hypoglycaemia (siwgr gwaed isel), sioc a cholli ymwybyddiaeth.

Ein cyngor yw na ddylai plant dan 7 oed yfed diodydd iâ slwsh sy’n cynnwys glyserol. Dim ond un ddiod 350ml y dylai plant dan 10 oed ei chael – mae hynny tua maint can o ddiod befriog.

Gofynnwch i’r gwerthwr am gynnwys glyserol y ddiod – peidiwch â phrynu’r ddiod os ydych chi’n ansicr.

I gael mwy o wybodaeth am ein canllawiau ar ddiodydd slwsh iâ, ewch i: https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-defnyddiwr/glyserol

Sicrhewch fod eich busnes yn cadw llygad ar ddiogelwch bwyd gydag adnoddau rhad ac am ddim gan yr ASB. O hyfforddiant i ...
23/04/2025

Sicrhewch fod eich busnes yn cadw llygad ar ddiogelwch bwyd gydag adnoddau rhad ac am ddim gan yr ASB. O hyfforddiant i restrau gwirio, rydym yma i’ch helpu.

https://www.food.gov.uk/cy/yma-i-helpu

23/04/2024

Mae hi’n wythnos ymwybyddiaeth alergeddau! Rydym yn canolbwyntio ar bwysigrwydd labelu alergenau clir ac arferion bwyd diogel, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ag alergeddau bwyd. 🚫🍴

🔎 Prif bwyntiau:

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw: Chwiliwch am labeli sy’n pwysleisio’r 14 prif alergen yn glir (er enghraifft mewn print trwm neu liw).

Bwydydd rhydd: Wrth brynu o siopau bara, cigyddion, neu ddelis, dylai gwybodaeth am alergenau fod ar gael yn hawdd. Gellir darparu’r wybodaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, gyda chyfeiriadau clir ar sut i gael yr wybodaeth hon.

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS): Rhaid i fwydydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol bellach gynnwys rhestr lawn o’r cynhwysion gan bwysleisio’r alergenau.

Bwyta allan: Edrychwch ar y fwydlen a siaradwch â staff am eich anghenion deietegol. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’ch alergeddau er mwyn atal croeshalogi ag alergenau wrth baratoi bwyd.

A chofiwch, os sylwch ar fusnes nad yw’n dilyn y gofynion, rydym yn argymell trafod hyn yn uniongyrchol gyda’r gweithredwr busnes bwyd yn gyntaf. Os na chaiff eich pryderon eu tawelu’n foddhaol, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol lle mae’r busnes wedi’i leoli drwy: https://www.food.gov.uk/cy/contact/consumers/find-details/cysylltwch-a-thim-diogelwch-bwyd.

I gael mwy o fanylion a dysgu sut i reoli eich alergeddau yn ddiogel, ewch i ➡️ https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-defnyddiwr/gwybodaeth-a-labelu-alergenau-ar-gyfer-defnyddwyr

23/04/2024

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Alergeddau, rydym yn galw ar bob busnes bwyd i roi mwy o sylwi i reoli alergenau. Mae gennym ganllawiau ac adnoddau cynhwysfawr rhad ac am ddim i’ch helpu i sicrhau bod eich bwyd yn ddiogel i gwsmeriaid ag alergeddau. O gyrsiau hyfforddi ar-lein ar alergenau i ganllawiau manwl ar atal croeshalogi, mae gennym yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i gadw’ch cwsmeriaid yn ddiogel ac yn wybodus.

Mae rheoli alergenau’n effeithiol nid yn unig yn ofyniad cyfreithiol, mae’n rhan hanfodol o ddiogelu cwsmeriaid. Manteisiwch ar y cyfle hwn i adolygu eich arferion, hyfforddi eich staff, a gwneud eich sefydliad yn lle mwy diogel i bawb.

I gael adnoddau a mwy o wybodaeth am reoli alergenau’n effeithiol yn eich busnes, ewch i: https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/canllawiau-ar-alergenau-ar-gyfer-busnesau-bwyd

Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i bawb!

Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Straen. Oeddech chi’n gwybod bod gan gyflogwyr ddyletswydd i atal straen sy’n gysyll...
23/04/2024

Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Straen.

Oeddech chi’n gwybod bod gan gyflogwyr ddyletswydd i atal straen sy’n gysylltiedig â gwaith?
Mae cefnogi iechyd meddwl da yn llesol i’ch gweithwyr a’ch busnes.

I gael gwybod mwy, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

April is Stress Awareness Month: tackle stress in the workplace with five steps in five weeks 2nd April 2024 by Scott Murphy ShareThis April, Britain’s bosses are being invited to follow five simple steps to prevent and reduce stress in their workplace. The Health and Safety Executive’s (HSE) Wo...

12/12/2023

Bwriadu gweini eog mwg dros y Nadolig?🎄

Os oes unrhyw rai o’ch gwesteion yn feichiog neu os oes ganddynt system imiwnedd wan, rydym yn eu cynghori i beidio â bwyta pysgod mwg oer fel eog mwg neu bysgod wedi’u cochi fel gravlax oherwydd y risg o listeriosis.

Gan fod y risg yn cynyddu gydag oedran, dylai pobl hŷn hefyd fod yn ymwybodol o’r risg hon ac ystyried cymryd camau i leihau haint listeria. Mae’r camau hyn yn cynnwys bwyta bwydydd cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, a sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gadw yn yr oergell (o dan 5°C). 🌡️

Y Nadolig hwn, gallech chi hefyd ystyried dewisiadau eraill, fel coginio pysgod mwg mewn pryd fel quiche, cacen bysgod, pei neu gratin!

https://www.food.gov.uk/cy/listeria

12/12/2023
28/11/2023

Heddiw, dyma ddathlu 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg – gan roi hyder i bobl wrth brynu a bwyta bwyd.

Cofiwch holi am y Sgôr Hylendid Bwyd, edrych am y sticer, neu wirio ar-lein cyn bwyta allan neu brynu bwyd: https://ratings.food.gov.uk/cy

Address

Adain Safonau A Diogelwch Bwyd, Coed Pella, Bae Colwyn, Y Deyrnas Unedig
Colwyn Bay
LL298HS

Opening Hours

Monday 8:45am - 5:15pm
Tuesday 8:45am - 5:15pm
Wednesday 8:45am - 5:15pm
Thursday 8:45am - 5:15pm
Friday 8:45am - 4:45pm

Telephone

+441492575283

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Diogelwch Bwyd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Diogelwch Bwyd:

Share