09/09/2026
Rhowch y dref ‘ma ar eich rhestr
Dyma daith gerdded gylchol 11km sy’n cychwyn a gorffen yng Ngorsaf Rheilffordd Llanelli. Mae’r daith mor fflat â phicen y maen o farchnad y dref gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru o Ddoc y Gogledd i Ganolfan Gwlyptir Llanelli y WWT a’i fflamingos pinc sydd yn rhaid eu gweld.
Ar hyd y daith byddwch yn dilyn traethau gwyn aber Afon Llwchwr gan fwynhau golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr. Mae arfordir Llanelli wedi ei drawsnewid yn llwyr dros y degawdau diwethaf o fod yn llawn diwydiannau brwnt ‘Tinopolis’ i fod yn le hyfryd ar gyfer cerdded, rhedeg, beicio a mwy.
O ran bwyd a diod dyma daith sy’n wych ar gyfer bolgwn fel fi achos mae Llanelli yn gartref i rai o gaffis gorau’r gorllewin. Os nagych chi wedi bod mae’n rhaid i chi rhoi Llanelli ar eich rhestr.
Am fap o’r daith a llawer mwy ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru.
//
Put this town on your list
This is an 11km circular walk that starts and ends at Llanelli Railway Station. The journey is as flat as a welshcake from the town’s market and it follows the Wales Coast Path from North Dock to the WWT Llanelli Wetland Centre with its must see pink flamingos.
Throughout the journey you will follow the white beaches of the Loughor Estuary enjoying magnificent views of Gower. The coast of Llanelli has been completely transformed over the last few decades from being full of dirty Industries that gave the town the name ‘Tinopolis’ to being a wonderful place for walking, running, cycling and more.
In terms of food and drink this is a walk that is great for a foodie like me because Llanelli is home to some of the best cafes in the west. If you haven’t been then you need to add Llanelli to your list.
For a map of the walk and much more visit the Wales Coast Path website.