Perfformiad a Gwella GIG Cymru

Perfformiad a Gwella GIG Cymru Gweithio i helpu gwella gwasanaethau iechyd a chanlyniadau i bobl yng Nghymru a chefnogi Llywodraeth Cymru wrth ddarparu sicrwydd ar wasanaethau GIG Cymru.

📣 Yn galw ar holl gydweithwyr GIG Cymru!Dyma eich cyfle i helpu i ddewis enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026.Dysgwch am y pr...
03/09/2026

📣 Yn galw ar holl gydweithwyr GIG Cymru!

Dyma eich cyfle i helpu i ddewis enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026.

Dysgwch am y prosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, darganfyddwch waith gwella ysbrydoledig sy'n digwydd ledled Cymru, a phleidleisiwch dros y mentrau rydych chi'n credu sydd wedi cael yr effaith fwyaf.

🔗 Pleidleisiwch heddiw: https://nhswales.awardsplatform.com/en_GB/auth/login/zKDYPDBR

Chwilio am syniadau ymarferol i wella gwasanaethau, canlyniadau neu brofiad cleifion?Ymunwch â'n cyfres o weminarau Gwel...
02/09/2026

Chwilio am syniadau ymarferol i wella gwasanaethau, canlyniadau neu brofiad cleifion?

Ymunwch â'n cyfres o weminarau Gwella Ansawdd ar Waith yn ystod Wythnos Gwella Ansawdd Genedlaethol 2026!

Gallwch weld prosiectau gwella GIG Cymru sydd wedi ennill gwobrau a chlywed sut mae timau wedi gwella canlyniadau i gleifion, staff a gwasanaethau.

Bydd y sesiynau byr hyn yn darparu enghreifftiau ymarferol o sut mae methodolegau gwella ansawdd wedi cael eu defnyddio i ddatrys heriau, gwella canlyniadau a thrawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru.

📅 Yn ystod 14-18 Medi

⏱ Sesiynau 30 munud

📝 Cofrestrwch i fynychu yma: https://forms.cloud.microsoft/pages/responsepage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrkprBrV99tRDjzmgZ8DmohJUOUM4NjM2S0oyQ0VTRDZEWEtVRUZMQlo2OS4u&lang=cy

🏠Does unman yn debyg i gartref i gleifion sy'n defnyddio gwasanaeth monitro iechyd o bell🩷Mae pobl sy'n byw gyda methian...
21/08/2026

🏠Does unman yn debyg i gartref i gleifion sy'n defnyddio gwasanaeth monitro iechyd o bell
🩷
Mae pobl sy'n byw gyda methiant y galon ledled Cymru yn elwa o wasanaeth monitro cleifion o bell. Mae hyn yn eu helpu i reoli eu cyflwr yn ddiogel o gartref ac yn lleihau'r angen am ymweliadau ysbyty.

Trwy weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd ledled Cymru a'r darparwr gofal rhithwir Doccla, mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cefnogi cyflwyno'r gwasanaeth digidol arloesol hwn, sy'n galluogi cleifion i gofnodi mesuriadau iechyd allweddol gartref a'u rhannu'n ddiogel gyda'u tîm clinigol arbenigol.

Yn gynharach eleni, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno gwasanaeth monitro cleifion o bell ar draws ei holl wasanaethau methiant y galon, gan gefnogi cleifion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi ehangu i fwy o fyrddau iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Powys, Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Bae Abertawe.

Mae canlyniadau cynnar yn awgrymu bod y dechnoleg yn helpu clinigwyr i nodi arwyddion o ddirywiad yn gynt, addasu triniaeth yn gyflymach a chefnogi cleifion i reoli eu cyflwr gyda mwy o hyder.
Diolch yn fawr iawn i'r timau ymroddedig sy'n gwneud hyn yn bosibl ac sy’n helpu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol yn nes at y cartref i gleifion ledled Cymru.

Yn y llun o'r chwith i'r dde mae Rebecca Smith, Lisa Smith, Danielle Gwillym a Chantel Pope o dîm methiant y galon Cwm Taf Morgannwg.

Mae gofalu am eich ymennydd yr un mor bwysig â gofalu am eich corff 🧠💙Mae 5 ffordd o gadw'ch ymennydd yn iach.  Heddiw r...
20/06/2026

Mae gofalu am eich ymennydd yr un mor bwysig â gofalu am eich corff 🧠💙
Mae 5 ffordd o gadw'ch ymennydd yn iach. Heddiw rydyn ni’n canolbwyntio ar roi cynnig ar rywbeth newydd.
Gwyliwch y fideo isod i gael gwybod mwy!

https://youtu.be/d-B1E4bhJbE?si=CkOCbSBB1AzTnJIN

Enjoy the videos and music you love, upload original content, and share it all with friends, family, and the world on YouTube.

Mae gofalu am eich ymennydd yr un mor bwysig â gofalu am eich corff 🧠💙Mae 5 ffordd o gadw'ch ymennydd yn iach. Heddiw ry...
17/06/2026

Mae gofalu am eich ymennydd yr un mor bwysig â gofalu am eich corff 🧠💙
Mae 5 ffordd o gadw'ch ymennydd yn iach. Heddiw rydyn ni’n canolbwyntio ar fwyta'n dda.
Mae bwyta cymysgedd o fwydydd yn dda i'n hymennydd.🍎🥦🥝
Gwyliwch y fideo isod i gael gwybod mwy!

Enjoy the videos and music you love, upload original content, and share it all with friends, family, and the world on YouTube.

Mae gofalu am eich ymennydd yr un mor bwysig â gofalu am eich corff 🧠💙Mae 5 ffordd o gadw'ch ymennydd yn iach. Heddiw ry...
16/06/2026

Mae gofalu am eich ymennydd yr un mor bwysig â gofalu am eich corff 🧠💙
Mae 5 ffordd o gadw'ch ymennydd yn iach. Heddiw rydyn ni’n canolbwyntio ar gwsg.
Mae cwsg fel ailwefru ein hymennydd.
Gwyliwch y fideo isod i gael gwybod mwy!

Enjoy the videos and music you love, upload original content, and share it all with friends, family, and the world on YouTube.

16/06/2026

Mae person y tu ôl i bob achos o C. diff.

“Roeddwn i’n sâl iawn gyda C. diff am 3 blynedd ar ôl cael llawdriniaeth ar fy mhen-glin.” Stephen
Mae ein camau gweithredu yn bwysig:

• Golchwch eich dwylo â dŵr a sebon
• Dylid cynnal y safonau glanhau
• Defnyddiwch wrthfiotigau yn ddiogel

Gwrandewch ar stori Stephen: perfformiadagwella.gig.cymru/atal-c-diff-diogelu-cleifion

Address

2 Capital Quarter Tyndall Street
Cardiff

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Perfformiad a Gwella GIG Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Perfformiad a Gwella GIG Cymru:

Shortcuts

Share