28/08/2026
🚔 Cipolwg y tu ôl i’r llenni gyda’r Uned Plismona Ffyrdd
Yn dilyn pryderon a godwyd gan drigolion am ddiogelwch ar y ffyrdd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymunodd y Comisiynydd â swyddogion plismona’r ffyrdd yn i weld yr hyn maen nhw’n ei wneud i fynd i’r afael â’r problemau hyn a chadw ein ffyrdd a’n cymunedau’n ddiogel.
🚨 Mae’r swyddogion hyn yn gweithio ddydd a nos, gan ymateb i achosion brys, ymchwilio i wrthdrawiadau difrifol, tarfu ar weithgarwch troseddol a thargedu pobl sy’n defnyddio ein ffyrdd i achosi niwed.
👀 Gwnaeth y shifft dynnu sylw at y nifer cynyddol o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â defnyddio e-gerbydau mewn ffordd beryglus ac ymroddiad swyddogion sy’n gweithio i amddiffyn y cyhoedd.
📢 Er mwyn cefnogi plismona rhagweithiol a sicrhau bod gan swyddogion y ddeddfwriaeth a’r pwerau sydd eu hangen arnynt i ymateb yn effeithiol, bydd y Comisiynydd yn parhau i fynnu rheoleiddio a gweithredu cryfach ar lefel genedlaethol.