Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau  Brycheiniog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Heading out for a walk or run near water? Take a moment for safety.Spending time by rivers, lakes or the coast is a grea...
07/09/2026

Heading out for a walk or run near water? Take a moment for safety.

Spending time by rivers, lakes or the coast is a great way to unwind – but in Wales, more people drown after accidentally falling into water than during any planned activity.

Here’s how to stay safe:

• Check the weather forecasts for your area
• Tell someone where you’re going and when you’ll be back
• Carry a mobile phone so you can call for help.
• Take note of warning signs
• Always supervise children near water
• Keep a safe distance from the edge — especially in wet or windy conditions

If you fall in unexpectedly, remember:
Tilt your head back, submerging your ears
Relax and control your breathing
Move your hands and legs to help you stay afloat
Your legs may sink – that’s OK everyone floats differently
Practice floating at a supervised location like a swimming pool.

If someone else is in trouble:
Phone 999 to get help
Tell them to stay calm and float on their back
Throw rescue equipment to help them float until emergency services arrive.

If you’re at the coast:
Beware of large waves which can sweep you off your feet and out to sea
Make sure you don’t get cut-off by the tide, check tide times for your location
http://metoffice.gov.uk/.../beach-forecast-and-tide-times
Always take coastal walks when the tide is going out, rather than coming in.

Let’s enjoy the outdoors safely.

Mynd allan am dro neu i redeg ger dŵr? Cymerwch eiliad i feddwl am ddiogelwch.Mae treulio amser ger afonydd, llynnoedd n...
07/09/2026

Mynd allan am dro neu i redeg ger dŵr? Cymerwch eiliad i feddwl am ddiogelwch.

Mae treulio amser ger afonydd, llynnoedd neu’r arfordir yn ffordd wych o ymlacio, ond yng Nghymru mae mwy o bobl yn boddi ar ôl cwympo i’r dŵr yn ddamweiniol nag yn ystod unrhyw weithgaredd sydd wedi’i gynllunio.

Dyma sut i gadw’n ddiogel:
• Gwiriwch ragolygon y tywydd ar gyfer eich ardal
• Dywedwch wrth rywun ble rydych chi’n mynd a phryd y byddwch yn ôl
• Cariwch ffôn symudol fel y gallwch alw am help.
• Cymerwch sylw o arwyddion rhybuddio
• Goruchwyliwch blant ger dŵr bob amser
• Cadwch bellter diogel o’r ymyl – yn enwedig mewn amodau gwlyb neu wyntog

Os byddwch chi’n syrthio i mewn yn annisgwyl, cofiwch:


Pwyswch eich pen yn ôl, gan drochi’ch clustiau
Ymlaciwch a rheolwch eich anadl
Symudwch eich dwylo a’ch coesau i’ch helpu i aros ar ben y dŵr
Efallai y bydd eich coesau yn suddo – mae hynny’n iawn: mae pawb yn arnofio’n wahanol
Ymarferwch arnofio mewn lleoliad dan oruchwyliaeth fel pwll nofio

Os oes rhywun arall mewn trafferth:
Ffoniwch 999 i gael help.
Dywedwch wrthyn nhw am beidio â chynhyrfu ac arnofio ar eu cefn.
Taflwch offer achub i’w helpu i arnofio nes bod y gwasanaethau brys yn cyrraedd

Os ydych chi ar yr arfordir:
Gwyliwch rhag tonnau mawr a all eich ysgubo oddi ar eich traed ac allan i’r môr

Gofalwch na chewch chi’ch torri i ffwrdd gan y llanw, gwiriwch amserau’r llanw ar gyfer eich lleoliad

http://www.metoffice.gov.uk/.../beach-forecast-and-tide...

Ewch am dro ar yr arfordir pan fydd y llanw yn mynd allan, yn hytrach nag yn dod i mewn

Gadewch inni fwynhau’r awyr agored yn ddiogel.

📝Uwch Swyddog Cynllunio (Rheoli Datblygiadau) Graddfa 10 £41,177 - £44,253 Contract Parhaol 37 Awr Y Wythnos Dyddiad Cau...
05/09/2026

📝Uwch Swyddog Cynllunio (Rheoli Datblygiadau)
Graddfa 10 £41,177 - £44,253
Contract Parhaol 37 Awr Y Wythnos Dyddiad Cau: 21 Medi 2026 Dyddiad Cyfweliadau: 5 Hydref 2026

🪶Tirweddau Gylfinir Cymru Swyddog Cymunedau Ac Ymgysylltu
Graddfa 6 £32,046 - £34,811 Pro Rata Contract Tymor Penodol- 31 Rhagfyr 2028 (14.8 Awr Y Wythnos)
Dyddiad Cau:14 Medi 2026
Dyddiad Cyfweliad: 23 Medi 2026

https://beacons-npa.gov.uk/the-authority/job-vacancies/

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad!🫡Parchu pawb  🚜Byddwch yn ystyriol o'r rhai sy'n byw yn, yn gweithio yn ac yn mwynhau cefn gwl...
04/09/2026

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad!

🫡Parchu pawb

🚜Byddwch yn ystyriol o'r rhai sy'n byw yn, yn gweithio yn ac yn mwynhau cefn gwlad.

🚧Gadewch gatiau ac eiddo fel y byddwch chi'n dod o hyd iddynt.

🚫Peidiwch â rhwystro mynediad i pyrth neu dreifiau, mynedfeydd caeau neu lwybrau mynediad wrth barcio. Peidiwch parcio ar ymylon y ffordd oni bai ei fod yn cael ei ganiatáu'n benodol. Parciwch yn ystyriol a meddyliwch am anghenion y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal - mae angen i gerbydau mwy allu defnyddio llwybrau mynediad, gan gynnwys tractorau, peiriannau fferm, cerbydau brys a cherbydau gwasanaeth.

👋Byddwch yn gwrtais, dywedwch helo, rhannwch y gofod.

🚩Dilynwch yr arwyddion lleol a chadw at lwybrau wedi'u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael.

🎥 Gwyliwch Newyddion ITV Wales heno am 6pm i weld ein Parc Gwledig Craig y Nos gwych!
03/09/2026

🎥 Gwyliwch Newyddion ITV Wales heno am 6pm i weld ein Parc Gwledig Craig y Nos gwych!

Nid gwersylla gwyllt yw hyn. Tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yw hyn. Treuliodd un o'n Wardeiniaid benwythnos Gŵyl ...
02/09/2026

Nid gwersylla gwyllt yw hyn. Tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yw hyn. Treuliodd un o'n Wardeiniaid benwythnos Gŵyl y Banc mewn ffordd llai na delfrydol, yn clirio pabell yn llawn cit gyda chadeiriau, barbeciw a dau fag o fwyd wedi'i heintio â phrynnod a hefyd canfod baw dynol ar y safle hefyd.

Pan fyddwch chi allan yn mwynhau natur, parchwch eich amgylchoedd. Peidiwch â gadael unrhyw olion ac ewch a phopeth yn ôl adref gyda chi.

Does dim unrhyw gyfiawnhad dros yr ymddygiad hwn.

Diolch i'n Wardeiniaid sydd bob amser yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl.

Diogelu'r amgylchedd!🗑️Ewch â'ch sbwriel adref - gadewch dim olion o'ch ymweliad. ❌Peidiwch â chynnau tân a dim.🐕Cadwch ...
01/09/2026

Diogelu'r amgylchedd!

🗑️Ewch â'ch sbwriel adref - gadewch dim olion o'ch ymweliad.
❌Peidiwch â chynnau tân a dim.
🐕Cadwch gŵn bob amser dan reolaeth ac yn y golwg.
🚯Baw cŵn – Rhowch mewn bag a'i daflu mewn unrhyw bin sbwriel cyhoeddus neu fynd ag ef adref.
🌿Gofalwch am natur - peidiwch ag achosi difrod neu aflonyddwch.

🪶Tirweddau Gylfinir Cymru Swyddog Cymunedau Ac Ymgysylltu Graddfa 6 £32,046 - £34,811 Pro Rata Contract Tymor Penodol- 3...
30/08/2026

🪶Tirweddau Gylfinir Cymru Swyddog Cymunedau Ac Ymgysylltu
Graddfa 6 £32,046 - £34,811 Pro Rata Contract Tymor Penodol- 31 Rhagfyr 2028 (14.8 Awr Y Wythnos)
Dyddiad Cau:14 Medi 2026
Dyddiad Cyfweliad: 23 Medi 2026

https://beacons-npa.gov.uk/the-authority/job-vacancies/

❗Hysbysiad Pwysig: Dim Mynediad i Bwll Pen y Ffordd Goch Oherwydd y cyfnod hir o dywydd poeth, sych a'r defnydd sylweddo...
28/08/2026

❗Hysbysiad Pwysig: Dim Mynediad i Bwll Pen y Ffordd Goch

Oherwydd y cyfnod hir o dywydd poeth, sych a'r defnydd sylweddol o ddŵr o Keepers Pond gan y Gwasanaeth Tân wrth ymateb i danau gwyllt diweddar, mae lefelau’r dŵr bellach wedi gostwng i lefel beryglus o isel.

Wrth i'r dŵr gilio, mae peryglon a gwrthrychau anhysbys wedi'u datgelu ar wely'r pwll, gan greu risgiau diogelwch difrifol. Er eich diogelwch eich hun, rhaid i chi beidio â mynd i mewn i'r dŵr o dan unrhyw amgylchiadau.

Mae'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i bob gweithgaredd ar neu yn y dŵr, gan gynnwys nofio, padlfyrddio, caiacio, ac unrhyw weithgareddau eraill sy'n seiliedig ar y dŵr.

Er y bydd y maes parcio yn aros ar agor, ni chaniateir mynediad i'r pwll ei hun nes bod rhybudd pellach. Byddwn yn parhau i gasglu sbwriel ar y safle. Fodd bynnag, gofynnwn i ymwelwyr barchu'r ardal a pheidio â thynnu, tarfu nac ymyrryd ag unrhyw wrthrychau neu nodweddion a ddatgelir gan lefelau dŵr isel. Mewn partneriaeth â CADW, rydym yn atgoffa ymwelwyr bod Pwll Pen y Ffordd Goch yn Heneb Gofrestredig o arwyddocâd hanesyddol, a gall unrhyw aflonyddwch niweidio asedau treftadaeth pwysig.

Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad wrth i ni weithio i ddiogelu diogelwch y cyhoedd a'r safle hanesyddol pwysig hwn. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu wrth i'r sefyllfa newid.

28/08/2026

Lle mae dy ailgylchu’n mynd? Beth sy’n cael ei wneud ohono? A beth sy'n digwydd ar ôl iti ei roi yn y bin cywir? 💭

Cymer 90 eiliad i ddarganfod taith dy ailgylchu yng Nghymru. Mae mwy na 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na’i hanner aros yng Nghymru. Ond dim ond pan fyddwn ni’n ei wneud yn iawn.

Felly lle bynnag y byddi di, Bannau Brycheiniog, yn crwydro Cymru neu fwynhau diwrnod allan, dewisa’r bin cywir...

Oherwydd mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn dechrau taith newydd 💚

Dos i https://bit.ly/43pwYjF i ddilyn dy ailgylchu ar daith.

Cymru yn Ailgylchu

Address

Plas Y Fynnon
Brecon
LD37HP

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share