05/06/2026
🚗⚡ Mae pethau cyffrous yn digwydd ym Mangor!
Yr wythnos hon, daeth Cyngor Dinas Bangor, Ffrindiau Pier y Garth a TrydaNi ynghyd i lansio clwb ceir trydan newydd Bangor.
Yn dilyn cyflwyniad gan Tom Simone, cafodd trigolion gyfle i weld y cerbyd yn agos, dysgu sut mae'r clwb yn gweithio, a darganfod sut y gall trafnidiaeth drydan a rennir fod o fudd i'n cymuned.
Nid gwasanaeth llogi ceir na chlwb ceir lleol yn unig yw TrydaNi; gall aelodau gael mynediad at gerbydau ar draws ei rwydwaith cynyddol, gan wneud teithio cynaliadwy yn fwy hygyrch nag erioed.
Dywedodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Jackie Spence:
"Rwy'n credu bod y clwb ceir cymunedol hwn, TrydaNi, yn syniad gwych i ddinas Bangor ac yn fforddiadwy iawn."
A fyddech chi'n defnyddio car trydan a rennir ym Mangor? Gadewch eich barn yn y sylwadau isod 👇