08/09/2026
Dydd Sadwrn, croesawom tua 150 o aelodau Merched y Wawr i'r Llyfrgell yn ystod eu penwythnos preswyl. Cafwyd diwrnod llawn gweithgareddau, gan gynnwys cyfres o sgyrsiau difyr am ein casgliadau a gwaith y Llyfrgell: Bywyd Lliwgar M. Lloyd Jones gan Morfudd Bevan, Arddangosfa 1926: Tair Awdures o Gymru gan Eluned Gramich, a chyflwyniad am wirfoddoli yn y Llyfrgell gan Thea Batty.
Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys taith dywys o amgylch y Llyfrgell, dangosiad o glipiau Merched y Wawr o'r Archif Ddarlledu, a chyfle i grwydro'r arddangosfeydd, y siop a'r caffi.
Rydym wrth ein bodd yn croesawu sefydliadau o bob cwr o Gymru, gan gynnig gofod croesawgar i ddod ynghyd, dysgu, a chysylltu â'r casgliadau a'r dreftadaeth gyfoethog sydd yn ein gofal.
//
We recently welcomed around 150 members of Merched y Wawr to the Library during their residential weekend. The group enjoyed fascinating talks about our collections and the Library's work: The Colourful Life of M. Lloyd Jones by Morfudd Bevan, The 1926 Exhibition: Three Women Writers from Wales by Eluned Gramich,
and a presentation about volunteering at the Library by Thea Batty.
The day also included a guided tour of the Library, a screening of Merched y Wawr clips from the Broadcast Archive, and an opportunity to explore our exhibitions, shop and café.
We are always delighted to welcome organizations from all over Wales, offering a welcoming space to come together, learn and connect with the rich collections and heritage in our care.