08/12/2025
⚠️ Paratowch ar gyfer effeithiau llifogydd ledled Cymru⚠️
Gofynnwn i bobl fod yn wyliadwrus ac yn barod gan fod disgwyl i Storm Bram achosi llifogydd ac aflonyddwch ar hyd a lled Cymru.
Rydym yn disgwyl y bydd nifer o rybuddion llifogydd ‘byddwch yn barod’ a rhybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun ac yn ystod y dydd, ddydd Mawrth.
Mae rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd ar waith ac mae'n debyg y bydd yr effeithiau mwyaf yn cael eu teimlo yn Ne Cymru.
Gallai llanw uchel ynghyd â gwyntoedd cryfion hefyd achosi tonnau mawr iawn ac rydym yn cynghori pobl i gadw draw oddi wrth bromenadau a'r môr.
Disgwylir problemau dŵr wyneb hefyd, ac rydym yn gofyn i bobl gadw draw oddi wrth lannau afonydd chwyddedig ac i beidio â gyrru na cherdded trwy lifddwr.
Gweithredwch nawr. Ewch i'n gwefan er mwyn:
Gwirio eich risg llifogydd yn ôl cod post ar ein gwefan.
Os ydych chi mewn perygl o ddioddef llifogydd, cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd.
Gweld y rhybuddion a'r hysbysiadau llifogydd diweddaraf.
Gwirio lefelau diweddaraf yr afonydd yn eich ardal.
Mae gwybodaeth am sut i baratoi ar gyfer llifogydd ar gael ar ein gwefan neu drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188
👉 https://orlo.uk/EDndt