Cyngor Sir Ceredigion

Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Sir Ceredigion
9yb-5yp Llun i Gwener
📞 01545 570881
📧 [email protected]
County Council

Dweud eich dweud – a ENNILL! Cymerwch ran nawr am eich cyfle i ENNILL 2 docyn i Sioe Frenhinol Cymru eleni!Mae Tyfu Cano...
12/06/2026

Dweud eich dweud – a ENNILL! Cymerwch ran nawr am eich cyfle i ENNILL 2 docyn i Sioe Frenhinol Cymru eleni!

Mae Tyfu Canolbarth Cymru a’i bartneriaid yn gwahodd busnesau a rhanddeiliaid ledled Canolbarth Cymru i gwblhau arolwg byr i helpu siapio dyfodol cymorth amaeth-dechnegol a bwyd-dechnegol yn y rhanbarth.

P’un a ydych eisoes yn rhan o’r clwstwr neu’n newydd iddo, bydd eich mewnbwn yn helpu llywio gweithgarwch, cymorth a buddsoddiad yn y dyfodol. Rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau sydd wedi derbyn cyllid gan Innovate UK neu gyllid arall.

Cymerwch yr arolwg:https://bit.ly/AgriFoodTechSurvey (Cliciwch ar y tab Iaith ar y dde uchaf i newid i fersiwn Gymraeg yr arolwg.)
Dyddiad cau: 20 Mehefin
Eisiau cymryd rhan yn y clwstwr?
Dysgwch fwy: https://www.tyfucanolbarth.cymru/TechAmaethTechBwyd
AberInnovation M-SParc Uchelgais Gogledd Cymru - Ambition North Wales Food Centre Wales Innovate UK

🌱 Ydych chi eisiau cyfrannu at fannau gwyrdd yn eich cymuned wrth ddysgu a datblygu sgiliau newydd? Efallai y bydd bod y...
11/06/2026

🌱 Ydych chi eisiau cyfrannu at fannau gwyrdd yn eich cymuned wrth ddysgu a datblygu sgiliau newydd? Efallai y bydd bod yn Eiriolwr Llwybrau yn addas i chi!

Pwrpas Eiriolwyr Llwybrau yw cynorthwyo i gefnogi a chynnal a chadw Llwybrau Hawliau Tramwy presennol ar draws Ceredigion, sy’n cynnwys llwybrau troed a llwybrau marchogaeth, ynghyd â gweithredu dulliau rheoli llystyfiant a fydd yn helpu i wella bioamrywiaeth. Darperir yr holl offer, hyfforddiant ac adnoddau cychwynnol. 🥾

☎️Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan neu Jill drwy [email protected] neu ffoniwch 01545 570881.

To read this in English – Ceredigion County Council

11/06/2026

📣 Wythnos Gofalwyr 2026 📣



Ydych chi o dan 18 oed?

Wyt ti’n gofalu am rywun sydd ag anabledd neu rywun sy’n sâl?



Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gwneud hyn. Rydym ni yn meddwl dy fod yn anhygoel.



Gall deimlo’n wych i helpu rhywun arall, ond rydym yn gwybod hefyd y gall fod yn heriol i gefnogi rhywun tra dy fod yn jyglo cymaint o newidiadau yn dy fywyd.



Mae Gofalwyr Ceredigion (GCC) yn cefnogi gofalwyr ifanc yng Ngheredigion.



Byddi’n gallu:

💬 Sgwrsio gyda’n gweithiwr allanol am yr hyn sy’n digwydd i ti ac unrhyw gefnogaeth y byddi di ei angen o bosibl.



🤸‍♀️ Ymuno â grŵp neu weithgareddau gofalwyr ifanc sy’n agos atat ti



👍 Cael cefnogaeth i weithio gyda’th ysgol i oresgyn yr heriau a ddaw wrth jyglo gofalu a dysgu.



Mae cael cefnogaeth yn hawdd, ffonio neu e-bost ac fe ddaw rhywun i gysylltiad â thi.



📞 03330 14 33 77

📧 [email protected]

🌐 https://www.gofalwyrceredigion.cymru/gofalwyrifanc

Gwahoddir trigolion, gweithwyr proffesiynol a’r rhai sydd â phrofiad o wasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg i gymryd...
11/06/2026

Gwahoddir trigolion, gweithwyr proffesiynol a’r rhai sydd â phrofiad o wasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar ein Polisi newydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Arferion Cyfyngol – gan helpu i lunio dull mwy diogel a pharchus i bawb.

🗓️ Rhannwch eich barn erbyn 24 Awst

Mwy o wybodaeth yma 👉https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/ymgyrchoedd-ar-agor/polisi-drafft-cefnogaeth-ymddygiad-cadarnhaol-a-lleihau-ymarfer-cyfyngol/

📚 Ydych chi’n chwilio am stori dda… a diwrnod allan gwych?Ymunwch â ni ddydd Gwener 19 Mehefin yn Hwb Penparcau, Aberyst...
10/06/2026

📚 Ydych chi’n chwilio am stori dda… a diwrnod allan gwych?

Ymunwch â ni ddydd Gwener 19 Mehefin yn Hwb Penparcau, Aberystwyth!

P’un a ydych yn caru llyfrau, eisiau darllen mwy, neu’n chwilio am ddigwyddiad cymunedol hamddenol, mae rhywbeth yma i bawb.

✨ Dewch i gwrdd ag awduron a beirdd lleol
✍️ Dysgu am gyrsiau darllen ac ysgrifennu i oedolion
☕ Mwynhau lluniaeth am ddim
👨‍👩‍👧 Gweithgareddau i blant ifanc hefyd

Mae’n rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn agored i bawb — dewch draw i ddathlu darllen gyda ni!

📅 10yb–2yp
📍 Hwb Penparcau

Aberystwyth City of Literature Dinas Llen Aberystwyth Cyngor Tref Aberystwyth Town Council Dysgu a Sgiliau Ceredigion Learning and Skills Llyfrgell Ceredigion Library Cyngor Llyfrau Cymru / Books Council of Wales

To read this in English – Ceredigion County Council

Address

Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa
Aberaeron
SA460PA

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm

Telephone

+441545570881

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Sir Ceredigion posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share