South Snowdonia Search & Rescue Team

South Snowdonia Search & Rescue Team Gwasanaeth achub gwirfoddol ac elusen sydd wedi arianu gan roddion / Volunteer rescue service funded by charitable donations. Charity Number 1195803
(1)

https://www.sssart.org.uk/joining-the-team South Snowdonia Search & Rescue (SSSART) is a registered charity that operates in North West Wales. SSSART operates in the South of Snowdonia National Park covering the Rhinogydd and Arenig mountain ranges and the surrounding areas. We are a group of approximately 30 volunteers who assist the Police with searches for vulnerable people who are missing from

home or those in need of rescue in the mountains of South Snowdonia. We are on call 24 hours a day, 365 days a year.

Amser prysur efo dwy o alwadau cyn penwythnos y gŵyl banc / busy period with two callouts before the bankholiday weekend...
30/04/2026

Amser prysur efo dwy o alwadau cyn penwythnos y gŵyl banc / busy period with two callouts before the bankholiday weekend:

27/4/26 - cafodd y tîm ei galw allan i gynorthwyo dyn a oedd o wlad yr Iseldir. Roedd wedi torri ei ffêr yng Nghoed y Brenin. Caeth y dyn ei drawsglwyo i gerbyd ei ffrindiau ac wedyn i'r ysbyty.

27/4/26 - the team was called out to help a man from the Netherlands who had broken his ankle in Coed y Brenin. The man was transported to his friend's vehicle and then to hospital.

29/4/26 - cafodd y tîm ei galw allan i helpu dyn oedd wedi syrthio o wal uwchben Bontddu. Roedd y tir yn heriol iawn ond cyrhaeddodd y tîm cyn gynted â phosib i'r safle. Roedd y dyn wedi anafu ei ffêr, felly ar ôl ei osod mewn stretsier, cafodd ei gario allan i'r fferm agosaf mewn cerbyd y tîm cyn mynd ymlaen i Ysbyty Gwynedd efo ei ffrind.

29/4/26 - the team was called to help a man who had slipped from a wall above Bontddu. The ground was challenging but the team arrived as quickly as possible to the location. The man had injured his ankle so the team packaged him in a stretcher and carried him out to the nearest farm and the team's vehicles and then onwards to Ysbyty Gwynedd with his friend.

Rydym yn dymuno gwellhad buan i’r ddau ohonyn / we wish both casualties a speedy recovery.

Wel, am ddiwrnod bendigedig. 'Rydym eisiau diolch o galon i bob un ohonoch chi i wneud y Ras Trawsfynydd mor llwyddianus...
20/04/2026

Wel, am ddiwrnod bendigedig. 'Rydym eisiau diolch o galon i bob un ohonoch chi i wneud y Ras Trawsfynydd mor llwyddianus. Tan y flwyddyn nesa - 4/4/2027!
Well what an amazing day. We want to thank each and every one of you who helped to make Ras Trawsfynydd so successful. We hope we'll see you all again next year - 4/4/2027!

Photos y Ras ar gael yma / Race photos available here, free to download but suggested donation to the SSSART team justgiving page. https://www.facebook.com/stanll41

19/04/2026
📣 Diwrnod i fynd! / One day to go! Mae’n amser i ysgwyd ffwrdd y pryderon, llwytho’r egni a mwynhau’r ras! Pwy sy’n baro...
18/04/2026

📣 Diwrnod i fynd! / One day to go!

Mae’n amser i ysgwyd ffwrdd y pryderon, llwytho’r egni a mwynhau’r ras! Pwy sy’n barod am y her? Rydym ni’n barod i’ch croesawu chi yfory! 💪🏃‍♂️

Time to shake off the nerves, load up the energy, and enjoy the race! Who’s ready for the challenge? We’re ready to welcome you all tomorrow! 💪🏃‍♂️

Ras Llyn Trawsfynydd / Trawsfynydd Lake Race 19/04/26 🎉

Cofiwch ddod i ddweud helo wrth y ni os byddech yn aros ar gychwyn y ras 👋 Mae gennym lot o bethau neis ar ein stondin a...
17/04/2026

Cofiwch ddod i ddweud helo wrth y ni os byddech yn aros ar gychwyn y ras 👋 Mae gennym lot o bethau neis ar ein stondin ac os byddech yn llwglyd, bydd burgers ar werth gan Nia 😋 🍔 /

Remember to come say hello if you’re waiting around the start line 👋 We have some lovely items at our stall and if you get hungry, Nia will be there selling burgers 🍔😋 Don’t miss out!

  📸Llun o’r gorffennol o rai o aelodau’r tîm ac un gwyneb cyfarwydd sy’n dal gyda'r tim hyd heddiw! Ydych chi’n adnabod ...
16/04/2026

📸
Llun o’r gorffennol o rai o aelodau’r tîm ac un gwyneb cyfarwydd sy’n dal gyda'r tim hyd heddiw! Ydych chi’n adnabod rhai o’r gwynebau?

📸
A photo from the archives featuring past team members, including one familiar face still with the team today! Do you recognise any of the faces?

🔔 Dim ond 50 lle ar ôl ac wythnos i fynd tan diwrnod y ras! 🏃‍♂️Mae Ras Llyn Trawsfynydd ar y 19eg o Ebrill yn prysur ag...
12/04/2026

🔔 Dim ond 50 lle ar ôl ac wythnos i fynd tan diwrnod y ras! 🏃‍♂️
Mae Ras Llyn Trawsfynydd ar y 19eg o Ebrill yn prysur agosáu ac mae dal amser i gofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eto!
🔔 Only 50 places left and a week to go until race day! 🏃‍♂️
The Trawsfynydd Lake Race on the 19th of April is fast approaching and there’s still time to enter if you haven’t signed up yet!
https://sssart.niftyentries.com/North-Wales-SSSART-Trawsfynydd-Multi-Terrain-8-Miler-2026

🏔️ Hyfforddiant Sgiliau Gaeaf / Winter Skills Training 🏔️Aeth y tîm ar daith ddiweddar i Aviemore yn yr Alban i ddysgu a...
12/04/2026

🏔️ Hyfforddiant Sgiliau Gaeaf / Winter Skills Training 🏔️

Aeth y tîm ar daith ddiweddar i Aviemore yn yr Alban i ddysgu a datblygu sgiliau gaeaf hanfodol. Yn ystod y daith, roeddent yn ymarfer sgiliau fel defnyddio cramponau a bwyell iâ, cerdded yn ddiogel ar dir rhewllyd, hunan-atal (self-arrest), ac asesu peryglon eirlithriadau. Roedd y profiad yn gyfle gwych i feithrin hyder, cryfhau gwaith tîm, a mwynhau tirweddau anhygoel y gaeaf. Trip da iawn! /

The team recently went on a trip to Aviemore in Scotland to develop and learn essential winter skills. During the trip, they practiced skills such as using crampons and ice axes, moving safely on icy terrain, self-arrest techniques, and assessing avalanche risk. The experience was a fantastic opportunity to build confidence, strengthen teamwork, and enjoy the incredible winter landscapes. A good trip all round!

🏃‍♀️Ras y plant a phobol ifanc! Dydd Sul, 19/04/26 🏃🏾‍♂️Yn ogystal â’r prif ras eleni, rydym yn cynnal ras i’r plant ac ...
06/04/2026

🏃‍♀️Ras y plant a phobol ifanc! Dydd Sul, 19/04/26 🏃🏾‍♂️

Yn ogystal â’r prif ras eleni, rydym yn cynnal ras i’r plant ac hefyd ras i bobol ifanc (12+) sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf. Cofrestru am 10:15 y bore, gyda’r prif ras yn dechrau am 11:00. Cost £3 y pen. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb! 🎉

🏃‍♀️Kid’s Race and First-Time Youth Race! Sunday, 19/04/26 🏃🏾‍♂️

Alongside this year’s main race, we’re hosting a race for the young kids and a first-time youth race (12+). Registration is at 10:15am, with the main race starting at 11:00am. Entry £3 per person. We look forward to welcoming everyone! 🎉

🔔 Dim ond 2 wythnos i fynd tan diwrnod y ras! 🏃‍♂️Mae Ras Llyn Trawsfynydd ar y 19eg o Ebrill yn prysur agosáu ac mae da...
05/04/2026

🔔 Dim ond 2 wythnos i fynd tan diwrnod y ras! 🏃‍♂️
Mae Ras Llyn Trawsfynydd ar y 19eg o Ebrill yn prysur agosáu ac mae dal amser i gofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eto! Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

🔔 Only 2 weeks to go until race day! 🏃‍♂️

The Trawsfynydd Lake Race on the 19th of April is fast approaching and there’s still time to enter if you haven’t signed up yet! Good luck to everyone taking part, we look forward to seeing you there.

📌 Hyfforddiant / Training 28/03/26Fel arfer mae’r tîm yn hyfforddi ar nos Fercher, ond weithiau rydym yn cynnal diwrnod ...
03/04/2026

📌 Hyfforddiant / Training 28/03/26

Fel arfer mae’r tîm yn hyfforddi ar nos Fercher, ond weithiau rydym yn cynnal diwrnod hyfforddi cyfan i ddatblygu mwy o'n sgiliau. Cynhaliwyd y sesiwn hon ar ddydd Sadwrn ger Llyn Gelli Gain fel senario realistig, a chafwyd i’w redeg fel galwad go iawn.

Roedd y senario yn cynnwys dyn ar goll, ac ar ôl dod o hyd iddo, aseswyd ei fod ag anaf posibl i’r asgwrn cefn, wedi torri top ei goes, ac anaf posibl i’r pelfis. Diwrnod hyfforddi gwerthfawr iawn i’r tîm. /

The team usually trains on Wednesday evenings, but occasionally we run full-day sessions to develop a wider range of skills. This session took place on a Saturday near Llyn Gelli Gain as a realistic callout scenario.

The exercise involved a missing person, and once located, the casualty was assessed with a suspected C-spine injury, broken femur, and suspected pelvic injury. A valuable day of training for the team.

Address

Trawsfynydd

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when South Snowdonia Search & Rescue Team posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to South Snowdonia Search & Rescue Team:

Share