Cyngor Abertawe

Cyngor Abertawe Tudalennau Facebook swyddogol Cyngor Abertawe. Un o awdurdodau lleol gorau’r DU – Gwobrau LGC 2025.

Gellir rhwystro pobl sy'n postio gwybodaeth niweidiol, anghywir neu gamarweiniol, sbam neu sy'n trolio'n sarhaus. Darllenwch ein telerau defnydd cyfryngau cymdeithasol www.abertawe.gov.uk/teleraucyfryngaucymdeithasol

I adrodd am broblem fel casgliad ailgylchu a gollwyd, bin sbwriel llawn neu dwll yn y ffordd y mae angen ei atgyweirio, gwnewch hynny ar-lein yn https://www.abertawe.gov.uk/adrodd

M

ae gennym amrywiaeth o swyddi ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/swyddi

Gallwch ddod o hyd i'n tudalen Facebook Cymraeg yn www.facebook.com/swanseacitycouncil

Cyfle i ddweud eich dweud am gynlluniau llifogydd Abertawe ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gofyn i breswylwyr, aelodau lleo...
13/06/2026

Cyfle i ddweud eich dweud am gynlluniau llifogydd Abertawe ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn gofyn i breswylwyr, aelodau lleol a chymunedau gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol newydd Abertawe.
Mae'r strategaeth yn nodi sut rydym yn bwriadu lleihau'r perygl llifogydd ar draws y ddinas, gan gynnwys yr amcanion sy'n arwain ein gwaith a'r mesurau rydym yn credu y mae eu hangen i helpu i amddiffyn cymunedau nawr ac yn y dyfodol.
Rydym eisoes yn edrych ar nifer o ardaloedd perygl llifogydd lleol ledled Abertawe, gyda gwaith ac ymchwiliadau yn canolbwyntio ar ddalgylchoedd, cynlluniau ac ardaloedd allweddol lle gallai gwelliannau yn y dyfodol wneud gwahaniaeth.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall blaenoriaethau lleol, llunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu anghenion y bobl a'r lleoedd y mae wedi'i chynllunio i'w cefnogi.
Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad a helpwch i lywio sut rydym yn rheoli perygl llifogydd yn Abertawe.
https://www.abertawe.gov.uk/ymgynghoriadrheolillifogydd.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 13 Gorffennaf 2026.

12/06/2026

Darganfyddwch pam mae dwyieithrwydd yn bwysig i'n myfyrwyr.
Mae ein hysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn eu helpu i fagu hyder a pharhau i ddatblygu eu sgiliau iaith ar ôl ysgol gynradd.

Am ddiwrnod gwych o hwyl, chwerthin a chwarae yn Abertawe! 🎉Penderfynodd ysgolion ar draws y ddinas ddathlu Diwrnod Rhyn...
11/06/2026

Am ddiwrnod gwych o hwyl, chwerthin a chwarae yn Abertawe! 🎉
Penderfynodd ysgolion ar draws y ddinas ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae, ac o edrych ar y lluniau hyn, roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol! 😄
O anturiaethau yn y maes chwarae a gemau creadigol yn yr ystafell ddosbarth i chwaraeon, defnyddio'r dychymyg a chwarae'n rhydd, rhoddwyd amser i blant fwynhau'r hyn sy'n bwysicaf, sef bod yn blant. 🏃‍♀️⚽🎨
Ymwelodd ein Tîm Chwarae â nifer o ysgolion i weld yr holl gyffro. Roedd yn wych gweld cymaint o staff yn ymuno hefyd gan brofi bod chwarae yn bwysig i bawb! 🙌
Mae diwrnodau fel hyn yn ffordd o'n hatgoffa pa mor bwysig yw chwarae ar gyfer hapusrwydd, datblygiad a lles plant. 💙
Diolch yn fawr i'r holl ysgolion, staff a disgyblion a gymerodd ran gan helpu i wneud y diwrnod mor arbennig. Gadewch i ni gadw'r chwarae i fynd! 🌈

11/06/2026
Ffyrdd y ddinas yn elwa o arwynebau newyddMae ffyrdd yn Abertawe wedi elwa o welliannau mawr fel rhan o fuddsoddiad gwer...
10/06/2026

Ffyrdd y ddinas yn elwa o arwynebau newydd
Mae ffyrdd yn Abertawe wedi elwa o welliannau mawr fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn rhwydwaith priffyrdd y ddinas.

Ers mis Ebrill 2026, mae nifer o lwybrau mewn cymunedau ar draws y ddinas wedi derbyn arwynebau ffyrdd newydd, gan helpu i greu ffyrdd gwell, mwy diogel i fodurwyr.

Mae lleoliadau'r ffyrdd a ailwynebwyd yn ystod y ddau fis diwethaf yn cynnwys:

Cylchfan Cwm Level
Wimmerfield Drive, Cilâ
Roseland Road - Waunarlwydd
Vardre Road - Clydach
Uplands Terrace/Richmond Terrace/Cwmdonkin Drive
Morfydd Street - Treforys
Mae'r holl ffyrdd sydd wedi'u gwella'n rhan o gyllideb £12miliwn Cyngor Abertawe ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio isadeiledd priffyrdd y ddinas yn ystod 2026/27.

Mae'r cyngor wedi llunio amrywiaeth eang o gynlluniau atgyweirio ffyrdd sy'n cynnwys gwaith ailwynebu llawn, cynlluniau ailwynebu bach, atgyweirio tyllau yn y ffordd a pharatoi arwynebau.

10/06/2026

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ymuno ag addysg cyfrwng Cymraeg.
Cewch glywed gan fyfyrwyr a symudodd yn ddiweddarach ac sydd bellach yn ffynnu - gyda chefnogaeth ar bob cam o’r daith.
P’un a siaradir Cymraeg gartref ai peidio, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn dal i fod yn opsiwn i’ch teulu.

Mae Cyngor Abertawe wedi croesawu canlyniad ymchwiliad tymor hir i gwynion am les anifeiliaid a gadwyd gan Mr Wayne Eras...
09/06/2026

Mae Cyngor Abertawe wedi croesawu canlyniad ymchwiliad tymor hir i gwynion am les anifeiliaid a gadwyd gan Mr Wayne Erasmus.

Cafodd Mr Erasmus waharddiad oes rhag cadw anifeiliaid yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 4 Mehefin ac ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Dros gyfnod estynedig, gwnaeth swyddogion y cyngor ymchwilio i bryderon a godwyd gan aelodau o'r cyhoedd a chynnal ymweliadau niferus â chae Mr Erasmus yn Bolgoed Road ym Mhontarddulais. Roedd yr ymweliadau yn dilyn cwynion am yr amodau yr oedd anifeiliaid yn cael eu cadw ynddynt.

Yn ystod yr ymweliadau, gwnaeth swyddogion lles anifeiliaid y cyngor symud moch a geifr y gwelwyd eu bod yn cael eu cadw dan amodau anaddas oddi ar y safle. Yn dilyn yr ymweliadau, gwnaeth Mr Erasmus brynu mwy o anifeiliaid ac roedd y rhain hefyd yn destun amodau tebyg.

Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Lles Anifeiliaid Cyngor Abertawe, "Mae'r llys wedi gwneud y penderfyniad cywir drwy wahardd Mr Erasmus rhag gallu cadw anifeiliaid byth eto.

"Yn ystod ymweliadau mynych gan swyddogion, fe welon nhw anifeiliaid yn cael eu cadw dan amodau ofnadwy. Bob tro fe wnaethom wneud yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud i symud yr anifeiliaid hyn a sicrhau eu bod yn ddiogel.

"Mae'r cyngor yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif, a byddwn bob amser yn ymateb i gwynion am ddiogelwch anifeiliaid ac yn cymryd y camau angenrheidiol pryd bynnag y bydd angen."

Roedd yr ymchwiliad yn rhan o waith parhaus gan Gyngor Abertawe i ymateb i adroddiadau gan breswylwyr pryderus a diogelu lles anifeiliaid.

Yn dilyn cyhoeddi'r gwaharddiad oes, dywedodd Cyngor Abertawe fod y canlyniad yn adlewyrchu difrifoldeb yr achos ac ymrwymiad parhaus y cyngor i gymryd camau lle mae pryderon sylweddol am les anifeiliaid.

Ychwanegodd Mr Harries, "Dylai'r achos hwn anfon neges glir iawn i eraill y byddwn yn gwneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i ddiogelu lles anifeiliaid a'u cadw yn ddiogel ac yn iach."

Rydym yn goleuo Neuadd y Ddinas yn las heno ar gyfer Wythnos Gofalwyr. Eleni, mae Wythnos y Gofalwyr yn ymwneud â meithr...
08/06/2026

Rydym yn goleuo Neuadd y Ddinas yn las heno ar gyfer Wythnos Gofalwyr.
Eleni, mae Wythnos y Gofalwyr yn ymwneud â meithrin cymunedau sy’n ystyriol o ofalwyr.
Mae cymunedau sy’n ystyriol o ofalwyr yn llefydd, mannau, gwasanaethau a grwpiau cymunedol lle mae gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod, eu deall a’u gwerthfawrogi. Maent yn gwneud cymorth yn rhan o fywyd bob dydd gan sicrhau bod gofalwyr yn cael y cyfleoedd a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
www.carersweek.org

🍓🍓🍓🍓Te Prynhawn Mefus yr Haf yr Arglwydd Faer 🍓🍓🍓🍓Gwybodaeth 👇👇👇
08/06/2026

🍓🍓🍓🍓Te Prynhawn Mefus yr Haf yr Arglwydd Faer 🍓🍓🍓🍓

Gwybodaeth 👇👇👇

Address

Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth
Swansea
SA13SN

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5:30pm
Wednesday 8:30am - 5:30pm
Thursday 8:30am - 5pm
Friday 8:30am - 4:30pm

Telephone

+441792633000

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Abertawe posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cyngor Abertawe:

Share