02/04/2026
Ar hyn o bryd rydym yn ceisio penodi nifer o Glercod Tribiwnlys i ymuno â'n tîm. Mae Clercod Tribiwnlys yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gweithrediad tribiwnlysoedd yn digwydd yn ddidrafferth.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi'u haddysgu'n dda, sydd â sgiliau Cymraeg rhugl, ac sydd â phrofiad a chymwysterau mewn refeniw awdurdodau lleol (treth gyngor a/neu ardrethi busnes) neu brisiad ar gyfer ardrethu. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, ac nid yw hyfedredd yn y Gymraeg yn orfodol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant Cymraeg i ymgeiswyr sy'n dangos parodrwydd i ddysgu. Yn anad dim, bydd arddangos gallu i ddysgu ac awydd cryf am ddatblygiad parhaus yn allweddol i gais llwyddiannus.
Ewch i’r ddolen isod am yr hysbyseb llawn, ac i lawrlwytho ein pecyn cais a'n ffurflen gais. Os byddwch yn dewis gwneud cais, sicrhewch fod eich cais yn cael ei gyflwyno erbyn dydd Gwener, 10 Ebrill 2026. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
https://www.valuationtribunal.wales/cy/swyddi.html