Maethu Cymru Sir y Fflint

Maethu Cymru Sir y Fflint Gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn lleol heddiw.
💜💜💜
📞 01352 701965

Rydym yn croesawu eich sylwadau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond mae rhai pethau – fel hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia, iaith/delweddau anweddus a bygythiadau – na fyddwn yn eu goddef. Dangoswch barch at bobl eraill a darllenwch ein polisi sylwadau cyn rhoi sylwadau:
https://maethucymru.llyw.cymru/ein-polisi-sylwadau-cyfryngau-cymdeithasol-maethu-cymru/

Lle mae gofal maeth yn teimlo fel teulu 💜Pan ydych yn maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, rydych yn rhan o gymuned sy...
12/06/2026

Lle mae gofal maeth yn teimlo fel teulu 💜

Pan ydych yn maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, rydych yn rhan o gymuned sy’n eich cefnogi, eich gwerthfawrogi ac yn eich dathlu bob cam o’r ffordd. 💚

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Cofiwch: Nid oes angen i chi wybod popeth. Dim ond malio sydd angen i chi ei wneud💜Cliciwch isod i ddarganfod sut y gall...
10/06/2026

Cofiwch: Nid oes angen i chi wybod popeth. Dim ond malio sydd angen i chi ei wneud💜

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

"Y peth mwyaf gwerth chweil am faethu yw gweld plentyn yn ffynnu, dysgu ymddiried, a gwenu eto. Mae'n ymwneud â chael ef...
08/06/2026

"Y peth mwyaf gwerth chweil am faethu yw gweld plentyn yn ffynnu, dysgu ymddiried, a gwenu eto. Mae'n ymwneud â chael effaith gadarnhaol a'u cadw'n ddiogel yn y gymuned." 💜

- Sue, Gofalwr maeth awdurdod lleol a gofalwr hwb Mockingbird, Sir y Fflint

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇

https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Eisiau gwybod am faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, eich tîm methu awdurdod lleol? Ymunwch â ni ar gyfer Paned gyda ...
03/06/2026

Eisiau gwybod am faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, eich tîm methu awdurdod lleol? Ymunwch â ni ar gyfer Paned gyda Gofalwr – sgwrs un-i-un gyda gofalwr maeth lleol profiadol

☕Chi sy’n dewis yr amser a’r lleoliad
📍Ni fydd yn trefnu bob dim arall
🥤Ac yn talu am eich diod!

Mae’n gyfle gwych i ofyn cwestiynau, clywed straeon go iawn a gweld a yw maethu yn addas i chi.

📲Gallwch archebu a darganfod mwy yn:
👉 https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/paned-gyda-gofalwr/

Am antur hanner tymor bythgofiadwy gawsom ni yn Woolly Experiences Therapy Farm!  🦙🐴🐓Daeth teuluoedd i ymuno â ni am ddi...
01/06/2026

Am antur hanner tymor bythgofiadwy gawsom ni yn Woolly Experiences Therapy Farm! 🦙🐴🐓

Daeth teuluoedd i ymuno â ni am ddiwrnod hyfryd yn llawn profiadau newydd, chwerthin a digonedd o ffrindiau blewog. Cafodd y plant a’r gofalwyr gyfle i fynd â’r alpacas, y merlod a’r asynnod am dro drwy harddwch cefn gwlad, gan ddysgu popeth am yr anifeiliaid a helpu i’w bwydo ar hyd y daith. 🌳

Cafodd y plant hefyd fwynhau rhywfaint o therapi ieir, lle buont yn treulio amser yn gafael yn yr ieir a’u hanwesu, gan wenu a chwerthin drwy gydol y dydd.🐓

Mae darparu cyfleoedd fel hyn i’n plant a’n teuluoedd mor bwysig. Arbennig oedd gweld pawb yn rhoi cynnig ar bethau newydd, meithrin hyder, creu atgofion ar y cyd a rhannu amser braf tu allan mewn awyrgylch mor groesawgar. 🧡

Diolch yn fawr i bawb yn Woolly Experiences am ddiwrnod mor arbennig. ’Allwn ni ddim aros tan yr antur nesaf! 💜

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

💜 Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud i faethu deimlo fel bod yn rhan o deuluYm Maethu Cymru Sir y Fflint, credwn fod cefnoga...
27/05/2026

💜 Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud i faethu deimlo fel bod yn rhan o deulu

Ym Maethu Cymru Sir y Fflint, credwn fod cefnogaeth yn fwy na dim ond galwad ffôn neu gyfarfod. Mae’n golygu cymuned, cysylltiad a gwybod nad ydych byth ar eich pen eich hun 🤝

Mae ein gofalwyr yn dod at ei gilydd trwy gydol y flwyddyn ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cyfeillgar a hamddenol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. O grwpiau babanod a phlant cyn ysgol i Grosio gyda Rachel, Cymdeithasu gydag Andy a Chanhwyllau gyda Charley, mae bob amser rhywbeth ar gael i gymryd rhan ynddo.😀

Rydym wedi rhannu gwaith anadlu, ioga, crefftau gwydr, nosweithiau pitsa a digonedd o chwerthin ar hyd y ffordd. Mae pob sesiwn yn gyfle i ymlacio, dysgu rhywbeth newydd a threulio amser gyda phobl sydd wir yn deall maethu. ✨

Mae nifer o’r gweithgareddau hyn yn cael eu harwain gan ein gofalwyr ac aelodau o’n tîm, sy’n defnyddio eu sgiliau a’u hangerdd er mwyn cefnogi eraill. 🌟

Pan ydych yn maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, rydych yn rhan o gymuned sy’n eich cefnogi, eich gwerthfawrogi ac yn eich dathlu bob cam o’r ffordd. 💚

👉 https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth, fe wnaethom ofyn cwestiwn syml i’n gofalwyr maeth awdurdod lleol: Beth mae maethu yn ei ...
23/05/2026

Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth, fe wnaethom ofyn cwestiwn syml i’n gofalwyr maeth awdurdod lleol: Beth mae maethu yn ei olygu i chi?🧐

“Mwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored a gwneud pethau rydym ni’n eu mwynhau gyda’n gilydd.” 💭

Mae maethu yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Yr eiliadau bach, bob dydd. Yr heriau. Y drefn sy’n dechrau teimlo’n gartrefol fesul dipyn. Wrth ei wraidd, mae’n golygu bod yno i blentyn sydd angen sefydlogrwydd, gofal a rhywun i gadw eu hochr.💜

Dechreuwch eich taith heddiw. 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni

Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth, fe wnaethom ofyn cwestiwn syml i’n gofalwyr maeth awdurdod lleol: Beth mae maethu yn ei ...
22/05/2026

Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth, fe wnaethom ofyn cwestiwn syml i’n gofalwyr maeth awdurdod lleol: Beth mae maethu yn ei olygu i chi?🧐

“Mae’n golygu cynnig sefydlogrwydd, gofal a gobaith i blentyn wrth gyfoethogi eich bywyd eich hunain mewn gymaint o ffyrdd” 💭

Mae maethu yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Yr eiliadau bach, bob dydd. Yr heriau. Y drefn sy’n dechrau teimlo’n gartrefol fesul dipyn. Wrth ei wraidd, mae’n golygu bod yno i blentyn sydd angen sefydlogrwydd, gofal a rhywun i gadw eu hochr.💜

Dechreuwch eich taith heddiw. 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, roeddem wrth ein boddau’n ymuno â Diwrnod Gwenyn ym Mharc Gwepra ar y cyd â Ffrindiau Pa...
22/05/2026

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, roeddem wrth ein boddau’n ymuno â Diwrnod Gwenyn ym Mharc Gwepra ar y cyd â Ffrindiau Parc Gwepra, Cyngor Sir y Fflint, gwenynwyr lleol a’r tîm bioamrywiaeth. 🌳🍯🐝

Cymerodd y teuluoedd ran mewn crefftau ar thema gwenyn, creu eu gwenyn eu hunain, ac erbyn diwedd y dydd fe greom ddarn hardd o waith celf a oedd yn teimlo fel adlewyrchiad gwirioneddol o’n cymuned faethu, gyda phawb yn ychwanegu rhywbeth unigryw i greu rhywbeth arbennig gyda’n gilydd.🎨

Roedd yn braf gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau’r gweithgareddau, yn treulio amser tu allan, yn dysgu mwy am wenyn a bod yn greadigol gyda’i gilydd. 🐝

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Crëwyd y darn hwn gan un o’n teuluoedd maeth ar gyfer cystadleuaeth Pythefnos Gofal Maeth y Rhwydwaith Maethu, ar y them...
21/05/2026

Crëwyd y darn hwn gan un o’n teuluoedd maeth ar gyfer cystadleuaeth Pythefnos Gofal Maeth y Rhwydwaith Maethu, ar y thema “Dyma beth yw Maethu”. 💜

Nid gwaith celf yn unig ydyw. Mae’n giplun o fywyd mewn cartref maeth, wedi’i lunio gan y rhai sy’n profi hynny bob dydd. 🏠

Mae’n ein hatgoffa nad syniad yw maethu, mae’n brofiad bywyd, wedi’i fynegi yma mewn lliw, dychymyg a theimlad.

The Fostering Network

Address

County Offices
Flint
CH65BD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Maethu Cymru Sir y Fflint posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Maethu Cymru Sir y Fflint:

Share