11/05/2026
💚💛am lwcus di Gwynedd Maldwyn cael ethol cynrychiolydd fel Beca Brown i’r senedd, record o amddiffyn drost trigolion Gwynedd a sefyll fyny drost menywod a plant ei’n cymunedau💚💛
🏴 Mae’r tri diwrnod diwethaf wedi bod yn dipyn o gorwynt, a dwi’n teimlo’n hynod o freintiedig i fod yn un o’r pedwar - ia, pedwar! - o aelodau Plaid Cymru sydd wedi eu hethol i’r Senedd dros Wynedd Maldwyn.
Diolch o galon am bob sgwrs stepen drws; am bob gair o gefnogaeth, ac am bob neges o longyfarch. Diolch i’n pleidleiswyr selog, i’r rhai a fentrodd am y tro cyntaf, ac i’r rhai a wnaeth fenthyg eich pleidlais - mae pob un ohonoch yn gyfrifol am greu’r olygfa hanesyddol honno ar risiau’r Senedd ddoe.
A diolch i’n tîm ymgyrch anhygoel ni sydd wedi cario ein neges o obaith i bob cwr o’r etholaeth. Ymlaen!
Ar fy niwrnod cyntaf yn y Senedd heddiw ro’n i wrth fy modd yn cael tynnu fy llun gyda’r cerflun ardderchog o Gymru sydd yn y cyntedd - darn o waith arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones o’r Bala.
🏴 The last three days have been quite a whirlwind, and it’s a huge privilege to be one of the four - yes, four! - Plaid Cymru members elected to represent Gwynedd Maldwyn. A heartfelt thanks for every doorstep conversation; for every word of support, and for every message of congratulations. Thank you to our faithful voters, to those who ventured for the first time, and to those who lent us your vote - you all played a part in creating those historic scenes on the Senedd steps yesterday. Many thanks too to our wonderful campaign team who took our message of hope to every corner of the constituency. Ymlaen!
On my first day at the Senedd I was delighted to have my picture taken with the wonderful sculpture of Wales by artist Angharad Pearce Jones, originally from Bala.