17/08/2026
🇬🇧 “Menna was amazing and it’s right that donation is what she wanted – it’s the type of person she was, she was kind.”
Beth knew her daughter Menna wanted to be an organ donor after they had discussed their wises as a family. Menna died last year after a cardiac arrest, caused by an epileptic seizure.
“We had a conversation, as a family, Menna said yes straight away, she said she would want to donate everything she could.”
“She lived her life quietly and was happy. She was never far away from our dog Ollie. She loved to read, anything relating to crime and psychology and enjoyed trying new things. She did indoor sky diving; we did the North Wales zip wire and she wanted to try hang gliding – I wasn’t keen on that!!
“We always told (the children) that as long as they have tried their best, that would always be good enough for us. The last thing we could do was our best for Menna, by honouring her wishes.”
Menna’s heart and lungs went to two different recipients, both of whom are doing incredibly well.
“That’s Menna’s legacy.”
While there were modest increases in organ donors and transplants across the UK last year, in Wales there was an increase in the number of donors - with 126 people donating their organs compared to 115 the previous year – the number of people in the region receiving transplants fell slightly to 224 from 235 last year. The figures underline a widening gap between the number of people who donate organs after death and those 348 patients who are waiting for a transplant in Wales.
Figures show that family consent across the UK has dropped from 69% in 2020/21 to just 57% in 2025/26.
Evidence shows families support donation going ahead in 90% of case if their relative is on the Organ Donor Register, but this drops to below 50% when they don’t know if they wanted to be an organ donor.
More people than ever are waiting for a life-saving transplant, which is why we are calling on one million people in the UK to register their decision to be an organ donor, to tackle the growing dilemma of declining family consent rates and ensure that more transplants can go ahead in Wales.
🏴 “Roedd Menna yn anhygoel ac mae’n gwneud synnwyr ei bod hi eisiau rhoi organau – dyna’r math o berson oedd hi.”
Roedd Beth yn gwybod bod ei merch, Menna, eisiau rhoi organau ar ôl iddyn nhw drafod eu dymuniadau fel teulu. Bu farw Menna y llynedd ar ôl ataliad y galon, a achoswyd gan ffit epileptig.
“Fe gawson ni sgwrs, fel teulu, dywedodd Menna ‘iawn’ ar unwaith, dywedodd y byddai hi eisiau rhoi popeth roedd hi’n gallu ei roi.”
“Fe wnaeth hi fyw ei bywyd yn dawel ac yn hapus. Doedd hi byth yn bell oddi wrth ein ci Ollie. Roedd hi wrth ei bodd yn darllen, unrhyw beth yn ymwneud â throsedd a seicoleg ac roedd hi’n mwynhau rhoi cynnig ar bethau newydd. Fe roddodd hi gynnig ar efelychydd plymio o’r awyr; fe aethon ni ar wifren wib Gogledd Cymru ac roedd hi eisiau rhoi cynnig ar gleidio – doeddwn i ddim yn rhy siŵr am hynny!!
“Roedden ni wastad yn dweud wrth y plant, cyn belled â’u bod wedi gwneud eu gorau glas, bod hynny bob amser yn ddigon da i ni. Y peth olaf gallen ni ei wneud oedd gwneud ein gorau glas i Menna, drwy anrhydeddu ei dymuniadau hi.“
Aeth calon ac ysgyfaint Menna at ddau dderbynnydd gwahanol, ac mae’r ddau ohonynt yn gwneud yn dda iawn.
“Dyna’r hyn mae Menna wedi'i adael ar ôl.”
Er bod cynnydd bach yn nifer y rhoddwyr organau a thrawsblaniadau ledled y DU y llynedd, yng Nghymru roedd cynnydd yn nifer y rhoddwyr - gyda 126 o bobl yn rhoi eu horganau o’i gymharu â 115 y flwyddyn flaenorol - roedd gostyngiad bach yn nifer y bobl yn y rhanbarth a gafodd drawsblaniad sef 224 o gymharu â 235 y llynedd. Mae’r ffigurau’n tanlinellu’r bwlch cynyddol rhwng nifer y bobl sy’n rhoi organau ar ôl marwolaeth a’r 348 o gleifion sy’n aros am drawsblaniad yng Nghymru.
Mae’r ffigurau’n dangos bod cydsyniad teuluoedd ledled y DU wedi disgyn o 69% yn 2020/21 i ddim ond 57% yn 2025/26.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod teuluoedd yn cefnogi rhoi organau mewn 90% o achosion os yw eu perthynas ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau, ond mae hyn yn disgyn i lai na 50% pan nad ydynt yn gwybod a oedd eu perthynas eisiau bod yn rhoddwr organau.
Mae mwy o bobl nag erioed yn aros am drawsblaniad i achub bywyd, a dyna pam rydyn ni’n galw ar filiwn o bobl yn y DU i gofrestru eu penderfyniad i roi organau, i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o ostyngiad yng nghyfraddau cydsynio teuluoedd ac i sicrhau bod rhagor o drawsblaniadau’n gallu cael eu gwneud yng Nghymru.